Yr wythnos hon yn Wrecsam
Mae mwy o welliant yma yn Wrecsam yr wythnos hon a bu gostyngiad pellach yn nifer yr achosion positif o Covid-19.
Ond, fel yn yr wythnosau blaenorol, mae angen i ni gadw llygad ar bethau a chofio bod Cymru gyfan yn dal i fod ar lefel rhybudd 4, sef y lefel uchaf, sy’n golygu bod risg uchel iawn.
Mae’r gyfradd 7 diwrnod ddiweddaraf fesul 100,000 o’r boblogaeth ar hanner cyfradd yr wythnos diwethaf, yn yr un modd â nifer yr achosion positif.
Mae nifer derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau oherwydd Covid-19 yn parhau i ostwng, sy’n newyddion da eto.
Llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo
Rydym yn gweld llacio cyntaf cyfyngiadau cyfnod clo lefel 4 wrth i blant ysgolion cynradd a phlant hŷn ysgolion uwchradd ddychwelyd i’r ysgol.
Mae rhai ysgolion uwchradd wedi gallu cynnig sesiynau galw mewn i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg.
Dylai’r disgyblion i gyd fod yn ôl mewn addysg wyneb i wyneb ar ôl y Pasg, ac unwaith eto rydym yn diolch i bawb am eu cefnogaeth wych i addysgu gartref.
Rydym yn parhau i ofyn i bob rhiant a gofalwr ddilyn pob un o’r canllawiau er mwyn sicrhau bod swigod ysgolion yn aros yn ddiogel.
Dychwelyd i’r ysgol i ddisgyblion uwchradd: Mygydau wyneb a Phrofion Dyfais Llif Unffordd
Mae siopau trin gwallt a siopau barbwr wedi ailagor ar gyfer apwyntiadau ac nid oes unrhyw broblemau wedi’u hadrodd. Bydd Swyddogion yn gwirio gydag eiddo i sicrhau eu bod yn gweithredu’n ddiogel a byddant yn cynnig unrhyw ganllawiau sydd eu hangen.
Cofiwch eich masg:
Mae siopau trin gwallt a barbwyr nawr yn gallu ail agor.
Os oes gennych apwyntiad, peidiwch ag anghofio eich masg.
Os ydych chi'n driniwr gwallt neu'n barbwr, rhaid i chi gwisgo masg math II a visor – darllenwch a dilynwch ein canllawiau ????https://t.co/eQzg61B7pR pic.twitter.com/DsuocRCQ3B
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 17, 2021
O ddydd Llun, bydd rhai siopau dianghenraid a chanolfannau garddio’n ailagor.
Parciau Gwledig
Yn unol â’r neges i aros yn lleol, byddwn yn ailagor meysydd parcio ein parciau gwledig dros y penwythnos. Rydym yn gwybod bod llawer ohonoch wedi gweld colli ymweld â nhw oherwydd y cyfyngiadau, ond cofiwch ddilyn y canllawiau ac aros 2m ar wahân oddi wrth ymwelwyr eraill â’r parciau.
Gwasanaethau Allweddol
Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol fel a nodir ar ein gwefan, a llawer o wasanaethau eraill hefyd. Mae adeiladau’r Cyngor gan gynnwys Swyddfeydd Ystadau Tai yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
Pobl sydd ar restrau gwarchod
Caiff mesurau gwarchod eu hatal o 31 Mawrth i’r rhai sy’n gwarchod ar hyn o bryd, ond cofiwch gadw’n ddiogel ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ydych chi'n gwarchod eich hun ar hyn o bryd?
O 31 Mawrth byddwn yn rhewi mesurau gwarchod, a gallwch ddychwelyd i'ch bywyd arferol – ond dylech barhau i amddiffyn eich hun.
✉️ Byddwch yn derbyn llythyr fel hwn gyda chyngor wedi'i ddiweddaru yn fuan ????https://t.co/aBfe6svL1q pic.twitter.com/PstICRzt2U
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 18, 2021
Y wybodaeth ddiweddaraf ar frechu
Mae mwy na 330,000 o frechlynnau wedi’u rhoi yng ngogledd Cymru, gyda mwy na 50,000 yn Wrecsam. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â 270,000 a 42,000 fel ei gilydd, yr wythnos diwethaf.
Mae prosesau cyflwyno’r brechiad yn parhau trwy’r Canolfannau Brechu Torfol a Lleol a meddygfeydd meddygon teulu.
Dylai pobl 65 oed a hŷn, rhai rhwng 16 a 65 oed â chyflyrau clinigol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol (Grwpiau Blaenoriaeth 1 i 6) nad ydynt wedi cael apwyntiad eto ar gyfer eu dogn cyntaf, gysylltu â’r ganolfan archebu ar 03000 840004 (8am – 6pm ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am – 1pm ar benwythnosau).
Mae’r rhaglen frechu ar ei thrywydd iawn i fodloni targed 5 Ebrill o wahodd pawb yng Ngrŵp Blaenoriaeth 1 i 9 i gael eu brechiad cyntaf:
• Bydd pobl 60 oed a hŷn (Grŵp Blaenoriaeth 7), yn cael eu gwahodd i drefnu apwyntiad erbyn 22 Mawrth
• Bydd pobl 55 oed a hŷn (Grŵp Blaenoriaeth 8), yn cael eu gwahodd i drefnu apwyntiad erbyn 29 Mawrth
• Bydd pobl 50 oed a hŷn (Grŵp Blaenoriaeth 9), yn cael eu gwahodd i drefnu apwyntiad erbyn 5 Ebrill
• Bydd gweddill y boblogaeth oedolion (Grŵp Blaenoriaeth 10), yn cael eu gwahodd i drefnu apwyntiad erbyn diwedd mis Gorffennaf, er ei bod yn bosibl y caiff y dyddiad hwn ei symud ymlaen.
Mae llawer o adroddiadau wedi bod am oedi o ran brechlynnau Oxford-AstraZeneca yn cyrraedd o India, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw un sydd wedi trefnu apwyntiad eisoes.
Wrth i ni symud ymlaen, mae’r effaith yn cael ei hasesu, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn obeithiol o gyrraedd eu targedau erbyn mis Gorffennaf o hyd.
Apwyntiadau brechu – gair i gall
Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed i ddarparu’r rhaglen yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch ei wneud i helpu.
• Peidiwch â ffonio’r GIG na’r meddyg teulu i ofyn am apwyntiad ar gyfer y brechlyn (oni bai eich bod wedi cael cyngor i wneud hynny). Byddan nhw’n cysylltu pan ddaw eich tro chi.
• Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffonau os nad ydym yn adnabod y rhif. Fodd bynnag, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y GIG yn ceisio eich ffonio os bydd yna apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
• Os byddwch yn derbyn gwahoddiad ar gyfer apwyntiad ond ddim eisiau derbyn y brechlyn, yna dylech adael i’r GIG wybod fel y gallant ei gynnig i rywun arall.
• Pan fyddwch yn mynd i apwyntiad, cadwch bellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â masg wyneb. Dylech hefyd ddod â llun adnabod.
• Byddwch yn derbyn gwahoddiad i dderbyn eich ail ddos o fewn 12 wythnos i’r cyntaf. Pan fyddwch yn derbyn eich ail lythyr, archebwch eich ail apwyntiad cyn gynted â phosibl
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Cofiwch …. mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim
Ni fydd unrhyw un byth yn gofyn i chi ‘gofrestru’ na thalu i gael eich brechu ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrinair.
Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.
Os bydd gennych symptomau…
Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am y cyfyngiadau presennol yng Nghymru
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd