Mae llawer o wledydd Ewrop yn teimlo effeithiau niferoedd Covid uchel ar hyn o bryd – gyda gwledydd fel Almaen, Awstria a’r Iseldiroedd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd.
Gyda datblygiad yr Amrywiolyn o bryder “omicron” sydd gyda’r potensial I ledaenu yn sydyn, gall neb fod yn siwr na fydd y Deyrnas Unedig yn teimlo effaith llawn “pedwerydd cyfnod” or haint.
Mae hyn yn tanlinellu cynyddol pwysigrwydd cael eich brechu. Felly os cewch chi gynnig pigiad – p’un ai’n ddos cyntaf, yr ail ddos neu’n bigiad atgyfnerthu – ewch amdani.
Straen Omicron
Dros yr wythnos diwethaf, mae’r straen newydd Omicron a ganfuwyd yn ddiweddar wedi achosi tro arall yn hanes y pandemig.
Credir ei fod yn fwy heintus nag amrywolion blaenorol, a ni fyddwn yn ymwybodol am sawl wsnos a yw hwn cyn ddrwg neu o bosib yn waeth, na Amrywiolyn Delta, sydd wedi bod yn ddigon drwg.
Mae’n tanlinellu pwysigrwydd cael brechlyn, gwisgo gorchudd wyneb yn yr ardaloedd cywir a bod yn ofalus.
Gwisgwch fwgwd
Cofiwch – oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae angen i chi barhau i wisgo mwgwd dan do yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru – fel siopau ac ar gludiant cyhoeddus
Masgiau mewn ysgolion uwchradd
Fel rhagofal (wrth i ni ddysgu rhagor am Omicron) mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai disgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do, lle nad oes modd cynnal pellter cymdeithasol.
Mae gorchuddion wyneb yn parhau i gael eu hargymell ar gludiant i’r ysgol hefyd.
Clinigau galw heibio i’r rhai rhwng 12 a 15 oed
Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i’r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar wefan Betsi Cadwaladr.
Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi dal COVID-19, argymhellir eich bod ch’n dod atom i gael eich dos cyntaf yr un fath.
Yn ddelfrydol, dylai’r sawl sy’n iau na 18 oed sydd wedi dal y firws yn ddiweddar aros am 12 wythnos nes cael eu brechiad, oni bai eu bod mewn grŵp sydd â risg fwy o salwch difrifol.
Rydym yn awyddus i bobl ifanc wneud penderfyniad cytbwys am frechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Man cychwyn da yw Canllaw Brechiadau COVID-19 i Blant a Phobl Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Profion llif unffordd – y canllawiau diweddaraf
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei ganllawiau’n ddiweddar ar bryd i gymryd prawf llif unffordd os nad oes gennych chi symptomau.
Os ydych chi dros 11 oed, cewch eich annog bellach i gymryd prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos (bob tri neu bedwar diwrnod) os nad oes gennych chi symptomau Covid-19.
Cewch eich annog i gymryd prawf hefyd:
- Os ydych chi am fod mewn sefyllfa â risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau llawn pobl neu fannau caeedig.
- Cyn i chi fynd i weld pobl sydd â risg uwch o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i ddal Covid.
- Os ydych chi’n teithio i fannau eraill o Gymru neu’r DU.
Sut i gael Pàs COVID y GIG yng Nghymru
Rhai i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG. Ni allwch ddefnyddio ap y GIG i gael Pàs COVID y GIG os ydych yn byw yng Nghymru. Gallwch lawr lwytho ac argraffu Pàs COVID y GIG.
Mae’n rhaid i chi fod:
- dros 16 oed
- wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru
Bydd angen i chi lwytho llun o un o’r canlynol:
- pasport
- trwydded yrru llawn y DU
- trwydded yrru llawn Ewropeaidd
- Cael eich Pàs COVID y GIG ar nhs.uk
Os nad oes gennych ID sy’n cynnwys llun, bydd angen ichi ofyn am fersiwn bapur o dystysgrif COVID y GIG.
TREFNWCH EICH PÀS COVID