Mae Wrecsam yn parhau i fod â’r lefelau uchaf o’r coronafeirws yng Nghymru (199 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth (ar sail treigl saith diwrnod).
Er bod y ffigurau yn gostwng yn gyffredinol yn y fwrdeistref sirol, maent yn parhau i fod yn uchel ac maent wedi cynyddu mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar.
Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ofalus iawn.
Mae’r rhaglen frechu yn datblygu’n gyflym, ac erbyn dydd Llun (15 Chwefror), mae’r bwrdd iechyd lleol yn anelu at fod wedi cynnig apwyntiad i bawb yn y pedwar ‘grŵp blaenoriaeth’ cyntaf.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nad ydym yn gadael neb allan…
A ydych hi’n 70 oed neu’n hŷn, neu’n gwarchod eich hunan?
- Os ydych chi’n 70 oed neu’n hŷn ac os nad ydych eisoes wedi derbyn apwyntiad brechu, ffoniwch 03000 840004
- Os ydych chi’n iau na 70 oed ac wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn eich cynghori i warchod eich hunan, fe ddylech chi hefyd ffonio’r rhif hwn i archebu slot.
Profiad cadarnhaol
Ers agor y ganolfan frechu leol yng Nghanolfan Catrin Finch ddiwedd mis Ionawr, mae wedi bod yn rhan allweddol o gyflwyniad y brechlyn yn yr ardal leol.
Mae’r cyngor wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu’r ganolfan hon yn Wrecsam, ac mae wedi bod yn hwb pwysig yn y frwydr yn erbyn y feirws.
Mae llawer o bobl wedi rhannu sylwadau cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol am eu profiadau ac mae’r staff iechyd ar y safle’n gwneud gwaith gwych.
Gallwch ddarllen mwy am gyflwyniad y brechlyn ar draws Gogledd Cymru ar wefan y bwrdd iechyd lleol,
neu gallwch wylio’r fideo isod sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan Dr Chris Stockport yn gynharach yr wythnos hon.
https://youtu.be/vEZKe0VYqX8
Mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim.. peidiwch â chael eich twyllo
Yn anffodus, mae nifer fechan o bobl a fydd o bosibl yn ceisio eich twyllo gyda negeseuon e-bost a galwadau ynghylch brechlynnau ffug.
Cofiwch … ni ofynnir i chi ‘gofrestru’ na thalu i dderbyn y brechlyn na darparu eich manylion banc na chyfrineiriau.
Bydd y GIG neu eich Meddyg Teulu yn cysylltu â chi yn eich tro.
Lefelau’r Coronafeirws yn eich ardal chi
Mae’r lefelau yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Wrecsam yn gwella, ond mae’r ffigurau yn parhau i fod yn uchel, ac mae rhai ardaloedd wedi gwaethygu.
Mae nifer yr achosion wedi cynyddu yn yr ardaloedd canlynol:
- Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 354 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 321 ar 5 Chwefror).
- Penycae a’r Mwynglawdd – 349 (cynnydd sylweddol o 157 ar 5 Chwefror).
- Rhos a De Johnstown – 256 (o’i gymharu â 199 ar 5 Chwefror).
Dengys hyn, er bod achosion yn gostwng yn gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol, nid yw’r frwydr wedi dod i ben.
Os hoffech chi ragor o fanylion am y ffigurau yn eich ardal chi, ymwelwch â ‘tableau’ data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasgwch ar y tab ‘MSOA’:
- Gorllewin Gwersyllt a Brynhyfryd – 354 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o’i gymharu â 321 ar 5 Chwefror).
- Penycae a’r Mwynglawdd – 349 (cynnydd sylweddol o 157 ar 5 Chwefror).
- Rhos a De Johnstown – 256 (o’i gymharu â 199 ar 5 Chwefror).
Dengys hyn, er bod achosion yn gostwng yn gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol, nid yw’r frwydr wedi dod i ben.
Os hoffech chi ragor o fanylion am y ffigurau yn eich ardal chi, ymwelwch â ‘tableau’ data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasgwch ar y tab ‘MSOA’:
Mae’r feirws yn lledaenu’n bennaf mewn aelwydydd rhwng aelodau o’r teulu, gydag amrywiolyn ‘Kent’ yn cyfrif am bob achos.
Cynllunio i ailagor ysgolion yn ddiogel
Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt wrth i Wrecsam ystyried trefniadau ar gyfer ailagor ysgolion i ddisgyblion y cyfnod sylfaen (plant rhwng 3 a 7 oed).
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y gallai ysgolion ddechrau ailagor i blant iau o ddydd Llun, 22 Chwefror.
Er bod lefelau’r coronafeirws yn gostwng yn Wrecsam, mae’r ffigurau’n parhau i fod yn uchel iawn, felly mae’r cyngor a phenaethiaid yn ystyried cynlluniau yn ofalus, gan barhau i fonitro’r sefyllfa leol.
Yn sgil yr ymagwedd ofalus hon, ni fydd plant yn dychwelyd i ysgolion yn Wrecsam tan ddydd Gwener, 26 Chwefror ar y cynharaf – yn ddibynnol ar lefelau’r coronafeirws yn yr ardal leol ar ôl yr hanner tymor.
Fodd bynnag, os bydd y lefelau’n parhau i fod yn uchel ac os teimlir nad yw’n ddiogel i ailagor ysgolion, ni fydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar 26 Chwefror a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa leol.
Planning underway for cautious return of foundation phase pupils in Wrexham
Byddwch yn ofalus (er ei bod hi bron yn hanner tymor)
Dylech ymddwyn fel pe bai Covid-19 arnoch chi a phawb yr ydych yn eu gweld.
Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru a:
- Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – fodd bynnag, gallwch gyfarfod gydag un unigolyn o aelwyd arall i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn unig.
- Dylech deithio at ddibenion hanfodol yn unig, megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofalu.
Os oes gennych chi symptomau…
Os oes gennych chi symptomau…
Os oes gennych chi symptomau o’r coronafeirws, sicrhewch eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Efallai mai dyma fydd y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Y diweddaraf ar frechlynnau (gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol
CANFOD Y FFEITHIAU