Bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at gael treulio amser allan yn yr awyr iach dros benwythnos y Pasg.
Erbyn hyn gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru deithio i rywle yng Nghymru, ac ar ôl misoedd o gyfnod clo llym mae’n braf cael canolbwyntio ar rywbeth positif.
Mae mynd allan i fwynhau’r awyr iach yn dda i iechyd meddwl a chorfforol, a gallwch gwrdd i fyny i gymdeithasu y tu allan gyda hyd at chwech o bobl o ddau gartref gwahanol.
Ond ceisiwch osgoi llefydd poblog. Cymrwch ragofalon synhwyrol a pheidiwch â chymysgu gyda chartrefi eraill y tu mewn.
Mwynhewch yr heulwen a’r awyr iach…. ond cadwch yn saff https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol
Lefelau coronafeirws yn eich ardal chi
Yn ei gyfanrwydd mae Wrecsam yn safle dwy ar bymtheg yng Nghymru (a’r isaf yng Ngogledd Cymru), gyda 20.6 achos i bob 100k o’r boblogaeth ar sail treigl amser o saith niwrnod.
Os ydych eisiau gwirio’r ffigyrau lle rydych yn byw, ewch i ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru a chliciwch ar y tab ‘MSOA’.
Diweddariad ar frechiadau
Mae mwy na 100,000 o drigolion Gogledd Cymru wedi derbyn dau frechiad, gyda 316,887 o bobl wedi derbyn y brechiad cyntaf.
Fel yr adroddwyd yr wythnos ddiwethaf mae’r oedi sydd wedi bod gyda chyflenwad brechiadau’r DU yn golygu bod byrddau iechyd yn derbyn llai o ddosau na gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Ebrill.
Ond er gwaethaf ymyriad i gyflenwadau, mae Gogledd Cymru yn parhau i fod ar darged i gynnig y dos cyntaf i Grwpiau o Flaenoriaeth 1-9 erbyn 19 Ebrill, a gweddill y boblogaeth erbyn diwedd Gorffennaf (yn ddarostyngedig i ddim amhariad pellach).
Yr wythnos hon mae’r bwrdd iechyd lleol yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu brechiadau i’r grwpiau canlynol:
- Pobl 16-64 oed gyda chyflyrau iechyd isorweddol (Grŵp Blaenoriaeth 6).
- Pobl 60-64 oed (Grŵp Blaenoriaeth 7).
- Pobl 55-59 oed (Grŵp Blaenoriaeth 8).
- Pobl 50-54 oed (Grŵp Blaenoriaeth 9).
- Ail frechiadau i’r rheiny sydd wedi derbyn eu brechiad cyntaf hyd at 12 wythnos yn ôl.
- Pobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth 1-4 nad oedd yn gallu cymryd apwyntiad pan y gwahoddwyd nhw am frechiad yn wreiddiol.
Os ydych mewn Grwpiau Blaenoriaeth 6-9 a ddim wedi cael eich galw eto, peidiwch â chysylltu â’ch Meddyg Teulu neu’r Ganolfan Bwcio Brechiadau.
Bydd rhywun yn cysylltu pan fydd hi’n dro arnoch chi ac ni fydd rhaid aros llawer hirach rŵan.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd y GIG lleol.
Gwnewch bob ymdrech i fynd i'ch apwyntiad brechlyn – mae pob dos yn werthfawr.
Os na allwch fynd i'r apwyntiad, rhowch wybod i'ch bwrdd iechyd.
Gallant roi eich apwyntiad i rywun arall yn y grwpiau blaenoriaeth. pic.twitter.com/knedUN7CXL
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) March 31, 2021
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau cyfredol yng Nghymru
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd