Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch wybod i Crimestoppers am fasnachwyr diegwyddor a throseddau ar drothwy’r drws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 23 Hydref
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhowch wybod i Crimestoppers am fasnachwyr diegwyddor a throseddau ar drothwy’r drws
Arall

Rhowch wybod i Crimestoppers am fasnachwyr diegwyddor a throseddau ar drothwy’r drws

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 6, 2021 1:32 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Illegal Tobacco
RHANNU

Erthygl gwadd gan “Safonau Masnach Cymru”

Gall trigolion a busnesau ar hyd a lled Cymru sy’n credu bod masnachwyr diegwyddor yn targedu eu cymuned, neu sy’n adnabod rhywun sydd wedi dioddef yn sgil trosedd ar drothwy’r drws roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers.

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cymru ac elusen wedi ymuno i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi aelodau o’r cyhoeddi i ddarparu gwybodaeth werthfawr yn ddi-enw i gadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Dyma’r mater diweddaraf y mae’r ddau sefydliad wedi bod yn cydweithio arno i annog aelodau o’r cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am bryderon a allai fod ganddynt, yn gwbl ddienw.

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Gwasanaeth Safonau masnach Cymru: “Rydym ni’n falch iawn gallu gweithio gyda Crimestoppers a chynnig ffordd i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

“Gall trosedd ar y trothwy effeithio ar unrhyw un, ond yn aml iawn, yr henoed a phobl agored i niwed sy’n cael eu targedu gan fasnachwyr diegwyddor sy’n cynnig gwasanaethau gwella’r cartref.

“Gall gwerthwyr o’r fath gynnig gwasanaethau, gan gynnwys glanhau ffenestri, cwteri, atgyweirio llwybrau neu ddreif, a gwaith ar y to neu adeiladu, gerddi, tocio coed neu hyd yn oed perswadio’r trigolion bod yn rhaid iddyn nhw ddod i mewn i’w cartref i ‘wirio rhywbeth’.

“Gallant fod yn argyhoeddiadol iawn a cheisio’n galed i’ch darbwyllo trwy eu dulliau gweithredu a’r hyn a ddywedant – mae’n hawdd cael eich twyllo. Sgamwyr di-gymhwyster yw’r bobl yma sy’n codi ffioedd anferthol am ddim neu’r nesaf peth i ddim.”

Dylai trigolion a busnesau fod yn ymwybodol o’r arwyddion hyn os yw masnachwr diegwyddor yn gweithredu yn eu hardal:

• Gwasanaethau heb eu gorffen neu wasanaethau o ansawdd gwael
• Prisiau uwch a mynnu bod y gwaith yn waith brys
• Pwysau i gytuno yn y fan a’r lle
• Taliadau arian parod ymlaen llaw
• Dim gwaith papur a/neu hawl i ganslo’r gwaith
• Heb fod yn darparu manylion y masnachwr
• Taflenni’n datgan Cyfnod Callio Statudol
• Anwybyddu arwyddion neu sticeri sy’n gofyn i’r masnachwr adael a pheidio â dychwelyd
• Gwerthu nwyddau o fan yn dilyn galwad ddi-rybudd ar drothwy’r drws
• Gwerthu o leoedd anarferol, e.e. sêl cist car

“Os credwch fod masnachwr diegwyddor yn gweithredu yn eich cymuned chi, neu os yw rhywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef yn sgil trosedd ar drothwy’r drws, yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org a dweud wrthynt beth wyddoch chi. Gall eich gwybodaeth gadw cymunedau ar hyd a lled Cymru’n ddiogel,” ychwanega Helen Picton.

Os yw’n fater brys, neu os yw masnachwr diegwyddor yn yr eiddo, cysylltwch â 999, neu os oes angen cyngor arnoch i helpu gydag anghydfod, pryder neu amheuaeth, ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodyn atgoffa: Dim newid i gasgliadau bin dros gyfnod y Pasg Nodyn atgoffa: Dim newid i gasgliadau bin dros gyfnod y Pasg
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn saff y Pasg hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English