Rydym yn gobeithio darparu’r nodiadau briffio yma ddwywaith yr wythnos tra bod y cyfyngiadau lleol mewn grym…
Pam fod gennym ni gyfyngiadau ychwanegol yn Wrecsam
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae nifer yr achosion positif o Covid-19 yn Wrecsam wedi codi o 33.1 i 103 fesul 100,000 o’r boblogaeth (ar sail cyfnod treigl o saith diwrnod).
Mae’r gyfradd positif bellach yn 8%.
Dylai hyn fod yn destun pryder i bawb.
Dyma’r rheswm dros gyflwyno mesurau lleol ddydd Iau diwethaf, er mwyn helpu i frwydro yn erbyn y feirws yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.
Does dim amheuaeth fod Covid-19 yn lledaenu yn ein cymuned, a’n bod angen y cyfyngiadau ychwanegol yma er mwyn ei reoli.
Mae llawer o bobl wedi holi pam fod y mesurau’n cael eu cyflwyno’r wythnos diwethaf.
Roedd rhai yn rhwystredig, ac nid oeddynt eisiau rhagor o reolau ac amhariad ar eu bywydau, ac mae hynny’n gwbl ddealladwy. Mae pawb yn dioddef o ‘flinder y pandemig’.
Ond mae’r data’n profi mai dyma’r peth cywir i wneud. Mae’r Coronafeirws yn cynyddu yn Wrecsam a’r mwyafrif o ogledd Cymru, ac rydym angen y cyfyngiadau ychwanegol yma os ydym ni’n mynd i frwydro yn ôl.
Serch hynny, mae angen i bawb ohonom ddilyn y rheolau er mwyn iddynt weithio. Felly os gwelwch yn dda, dilynwch y rheolau…
• Peidiwch â theithio allan o’r sir oni bai fod hynny ar gyfer gwaith neu addysg.
• Peidiwch â chyfarfod pobl nad ydych chi’n byw gyda nhw dan o.
Nid ‘yr ieuenctid’ yn unig sydd wrthi…mae pawb
Bu llawer o bryder am bobl ifanc yn dal ac yn trosglwyddo’r feirws, ond ar hyn o bryd mae’r gyfradd uchaf o gynnydd ymysg pobl 40 i 59 oed.
Felly nid ‘yr ieuenctid’ yn unig sydd wrthi…mae angen i bawb ohonom gadw pellter cymdeithasol – boed ni yn y gwaith, ar gludiant cyhoeddus, yn ymweld â chanol y dref neu unrhyw le y tu allan o’n haelwyd.
Mae’r nifer fechan o bobl sydd yn dewis peidio cadw pellter cymdeithasol yn eithriadol o hunanol – maen nhw’n rhoi eu hunain a phobl eraill mewn risg, ac yn ei gwneud hi’n fwy anodd i Wrecsam drechu’r feirws nes bod dim angen cyfyngiadau ychwanegol.
Felly cofiwch lanhau eich dwylo’n rheolaidd, gorchuddiwch eich ceg pan fyddwch chi’n tagu neu’n tisian, a gwisgwch orchudd wyneb mewn siopau neu ar gludiant cyhoeddus.
Os weithiwn ni gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw Wrecsam a’n hanwyliaid yn ddiogel yr hydref hwn.
Mae manylion llawn y cyfyngiadau yn Wrecsam ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Sut i gael prawf
Y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:
Rhan allweddol o’r frwydr yn erbyn y Coronafeirws ydi sicrhau eich bod chi’n ynysu ac yn cael prawf cyn gynted ag y byddwch chi’n cael unrhyw symptom.
Mae profi yn rhan allweddol o’r dull Profi, Olrhain a Diogel yng Nghymru, ac mae angen i bawb ohonom wneud ein rhan a gweithredu’n gyflym os ydym ni’n credu ein bod yn arddangos unrhyw arwydd o’r feirws.
Mae’r symptomau yn cynnwys:
• Peswch parhaus, newydd.
• Tymheredd uchel.
• Wedi colli synnwyr arogli a blasu, neu unrhyw newid
Os byddwch chi’n datblygu rhai o’r symptomau yma, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw dilyn y canllaw hunan-ynysu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yr ail beth i wneud yw gwneud cais am brawf. Unwaith eto, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd wneud cais am gais gan ddefnyddio’r ap NHS Covid-19 ar eich ffôn.
Mae profi yng Nghymru yn golygu naill ai un swab sych o gefn y gwddf, neu swab cyfunol o’r gwddf a thrwyn.
Gweithredu’n gyflym yw’r gwahaniaeth rhwng dal y feirws, neu ei helpu i ledaenu. Felly, os gwelwch yn dda, gweithredwch yn gyflym a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel.
Rhag ofn eich bod wedi methu…
Storïau a chyhoeddiadau pwysig o Wrecsam dros yr ychydig ddyddiau diwethaf…
Cyfyngiadau clo lleol – canllawiau ar fynd i’r ysgol
Cyflwyniad hysbysiad gwella ar y Red Lion yn Marchwiail
Cyllid grant ar gael i fusnesau canol y dref
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG