Mae nodyn briffio heddiw eto yn eithaf byr – sy’n adlewyrchu sut mae pethau wedi gwella.
Ond rydyn ni’n gwybod nad yw’r pandemig ar ben, a’r amrywiolyn Delta sy’n achosi pryder yw’r tro diweddaraf yn y stori… felly mae angen cydbwysedd.
Dewch i ni fwynhau’r rhyddid sydd gennym, ond bod yn gall a chofio’r pethau sylfaenol – dwylo, wyneb, pellter, awyr iach.
Ydych chi’n gweithio ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam?
Mae uned brofi symudol ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn ei gwneud yn haws i weithwyr gael prawf Covid-19.
Mae hyn yn rhan o ymdrechion i helpu i gadw nifer yr achosion yn isel yn Wrecsam.
Mae’r cyfleuster profi hawdd-ei-ddefnyddio’n cynnig profion llif unffordd cyflym ym Mharc Busnes Rhydfudr bob dydd Llun.
Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu
Mae wyth deg pedwar y cant o oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn. Mae hanner wedi’u hamddiffyn yn llawn gan ddau ddos.
Mae’r brechlyn wedi cael ei gynnig i bob unigolyn cymwys, ac mae’r bwrdd iechyd lleol yn annog y rhai sydd heb ei gael hyd yma i drefnu apwyntiad ar-lein.
Dydi hi ddim yn rhy hwyr
Gallai brechu pawb cyn i’r amrywiolyn Delta (neu unrhyw amrywiolyn arall sy’n achosi pryder) gael gafael go iawn gael effaith fawr ar ein gallu i ddychwelyd i fywyd arferol.
Felly dros yr wythnosau nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn anfon negeseuon testun a llythyrau at bobl sydd heb drefnu i gael y dos cyntaf eto.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gallu trefnu eich apwyntiad neu os ydych wedi gwrthod un pan gafodd ei gynnig gyntaf a’ch bod wedi newid eich meddwl wedyn.
Mae’r drws bob amser ar agor ac nid yw’n rhy hwyr.
Archebu ar-lein
Mae hi rŵan yn haws nag erioed i chi drefnu eich dos cyntaf a’ch ail ddos drwy’r gwasanaeth archebu ar-lein ar ein gwefan.
Mae dewis o ddyddiadau ac amseroedd ar gael ar gyfer apwyntiadau, ac mae clinigau brechu mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru.
Os nad ydych chi’n gallu trefnu apwyntiad ar-lein, ffoniwch 03000 840004.
Cael eich ail ddos
Mae data byd go iawn yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol iawn yn erbyn yr amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.
Felly, mae’n hanfodol eich bod chi’n cael eich ail ddos i fod mor ddiogel â phosib’.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru ar wefan bwrdd iechyd lleol y GIG.
Angen gwirfoddolwyr i helpu i dreialu brechlyn ‘atgyfnerthu’
Mae angen gwirfoddolwyr o fewn 50 milltir i Wrecsam i fod yn rhan o dreial clinigol newydd i dderbyn trydydd brechlyn ‘atgyfnerthu’.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n recriwtio rhai dros 30 oed sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 – gan gynnwys y rhai a frechwyd yn gynnar yn y rhaglen frechu (e.e. pobl dros 75 oed neu weithwyr iechyd a gofal).
Cadw gweithwyr yn ddiogel
Wrth i fwy o fusnesau ailagor yn Wrecsam, rydym ni’n ceisio sicrhau bod cyflogwyr yn cymryd y camau cywir i gadw eu gweithwyr yn ddiogel.
Rydym ni bellach yn gweithio gydag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gynnal gwiriadau Covid-19 ar hap mewn busnesau. Y bwriad yw cefnogi busnesau drwy eu helpu i reoli risgiau’r feirws.
Symptomau? Ewch am brawf
Os oes gennych chi symptomau’r coronafeirws – neu os ydych wedi’ch nodi’n ‘gyswllt’ gan y gwasanaeth Monitro, Olrhain a Diogelu – gofalwch eich bod yn hunanynysu ac yn cael prawf.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Symptomau ehangach
Gallwch rŵan gael prawf am ddim os oes gennych chi ystod ehangach o symptomau.
Yn ogystal â’r prif symptomau – gwres, peswch newydd a pharhaus neu golli/newid i’r gallu i flasu ac arogli – gall pobl bellach gael prawf os oes ganddynt symptomau eraill hefyd, fel:
• Symptomau tebyg i’r ffliw sydd heb gael eu hachosi gan gyflyrau rydych chi’n gwybod amdanynt (fel clefyd y gwair), gan gynnwys poen yn y cyhyrau, gorflinder, cur pen cyson, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, tisian yn ddi-baid, dolur gwddw a/neu grygni, byr eich gwynt neu frest dynn.
• Teimlo’n wael yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt ag achos wedi’i gadarnhau o Covid-19.
• Unrhyw symptomau newydd neu newid i symptomau ar ôl prawf negyddol yn flaenorol.
Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – cwestiynau cyffredin ynglŷn â chyfyngiadau yng Nghymru ar hyn o bryd
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiadau rheolaidd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF