Prif negeseuon
- Arhoswch gartref tan 9 Tachwedd
- Rydym yn gwneud taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer gwyliau’r hanner tymor
- Mae Wrecsam yn cefnogi treial brechiad Covid-19 y DU
- Treulio’r Calan Gaeaf gartref – parchu, gwarchod a mwynhau.
- Cadwch draw pan fydd yr hen orsaf heddlu yn cael ei dymchwel os gwelwch yn dda … gwyliwch y digwyddiad ar-lein yn hytrach
- A ydych wedi derbyn brechiad rhag y ffliw eto?
- Cadwch Wrecsam yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt eleni
- Cofiwch o’ch cartref ar Sul y Cofio eleni
- Rydych bellach yn gallu gweld ystadegau Covid-19 eich ardal leol.
Wrth i ni nesáu at ddiwedd wythnos gyntaf y cyfnod atal byr yng Nghymru, dyma nodyn sydyn i’ch atgoffa o rai o’r pethau allweddol y mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt yn Wrecsam.
Mae’n rhaid i bob un ohonom wneud hyn tan 9 Tachwedd.
Bydd y cyfnod atal byr yn dod i ben ddydd Llun, 9 Tachwedd. Tan hynny, mae’r neges yn syml. Arhoswch gartref.
Mae hyn yn golygu y dylech:
- Weithio o gartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Yr unig eithriad i hynny yw swyddi lle nad yw hyn yn bosibl.
- Ond gadael eich cartref i wneud ymarfer corff, neu at ddibenion hanfodol, megis siopa neu gasglu meddyginiaeth.
- Osgoi cyfarfodydd gyda phobl nad ydynt yn byw gyda chi – naill ai dan do neu yn yr awyr agored. Fodd bynnag, os ydych yn byw ar eich pen eich hunan neu’n rhiant sengl, https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredingallwch ffurfio ‘swigen’ gydag un aelwyd arall.
Darllenwch Gwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am gyfyngiadau’r cyfnod atal byr.
Darllenwch nodyn briffio’r wythnos ddiwethaf am ragor o wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau lleol sydd wedi cau yn ystod y cyfnod atal.
Gwneir taliadau prydau ysgol am ddim dros gyfnod yr hanner tymor
Gwneir taliadau prydau ysgol am ddim dros gyfnod yr hanner tymor.
Os yw eich plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim ac os ydych wedi derbyn taliad uniongyrchol gennym yn y gorffennol, dylech fod wedi derbyn taliad yn yr ychydig ddyddiau diwethaf.
Bydd yr arian a drosglwyddwyd i chi yn talu am wythnos gyntaf y gwyliau hanner tymor.
Os yw eich plant yn aros gartref am yr ail wythnos (blynyddoedd 9, 10 ac 11 mewn ysgolion uwchradd), byddwn yn gwneud taliad arall i’ch cyfrif banc ar 2 Tachwedd.
A chofiwch… os oes rhaid i’ch plant hunan-ynysu am 10 diwrnod ar unrhyw adeg, peidiwch â phoeni. Byddwn yn gwneud taliadau i’ch cyfrif banc ar gyfer y cyfnod hunan-ynysu.
Bydd hyn yn eich helpu i ddarparu prydau i’ch plant dros eu cyfnod gartref.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth, cysylltwch â ni
Bydd Wrecsam yn cefnogi treial y DU am frechiad Covid-19
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn treial clinigol sy’n astudio brechiad ymchwiliadol yn erbyn Covid-19.
Cwblhawyd profion rhagarweiniol o’r brechiad ar bobl yn ddiweddar, ac roedd canlyniadau cychwynnol y lefelau gwrthgorff yn addawol mewn gwirfoddolwyr iach ac nid oes unrhyw bryderon diogelwch difrifol wedi’u nodi hyd yma.
Bydd yn rhaid cynnal profion ar raddfa fwy mewn perthynas â’r brechiad ac mae astudiaeth sy’n cynnwys 9,000 o bobl ar draws oddeutu 18 rhanbarth ar draws y DU ar fin dechrau. Y nod yw recriwtio gwirfoddolwyr rhwng 18 ac 84 oed sy’n byw o fewn 30 milltir i Wrecsam.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Treulio’r Calan Gaeaf gartref – parchu, gwarchod a mwynhau
Rydym yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt ofyn i bobl ddathlu’r Calan Gaeaf yn eu cartrefi eleni.
Mae nifer o ffyrdd i ddathlu’r Calan Gaeaf yn eich cartref gyda’ch plant, er enghraifft drwy gerfio pwmpenni, cynnal gweithgareddau crefft a chreu helfeydd dychrynllyd yn eich cartref a’ch gardd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi creu nifer o weithgareddau llawn hwyl y gallwch eu lawrlwytho.
Dymchwel hen orsaf yr heddlu
Many of you have been wondering when and how the former police station on Powell Road
Mae nifer ohonoch wedi bod yn meddwl pryd a sut fydd hen orsaf yr heddlu ar Ffordd Powell yn cael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer yr archfarchnad newydd.
Byddwn yn defnyddio ffrwydrad dan realaeth dros y penwythnos, ond yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, rydym yn gofyn i bobl gadw draw a gwylio’r digwyddiad ar-lein.
A ydych wedi derbyn eich brechiad rhag y ffliw eto?
Rydym yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog unrhyw un i gael brechiad rhag y ffliw am ddim.
Mae’r rheiny sy’n gymwys yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl sy’n 65 oed neu’n hŷn, merched beichiog, plant rhwng 2 a 10 oed, gofalwyr a staff cartrefi gofal sydd mewn cyswllt rheolaidd â chleientiaid, a thrigolion cartrefi gofal.
Cadwch Wrecsam yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt eleni
Mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn gofyn i bawb ystyried sut y gallant gadw Wrecsam yn ddiogel ar Noson Tân Gwyllt eleni a pheidio â lledaenu’r coronafeirws.
Ni ddylid trefnu unrhyw ddigwyddiadau tân gwyllt cyhoeddus nac arddangosfeydd tân gwyllt eleni. Er y gallwch brynu tannau gwyllt i’w defnyddio yn eich gardd, cofiwch fod tân gwyllt yn beryglus, a dylech feddwl yn ofalus cyn eu defnyddio, yn arbennig o ystyried y perygl ychwanegol o’r coronafeirws.
Sul y Cofio – cofiwch o’ch cartref eleni
Anogir pobl yn Wrecsam i nodi Sul y Cofio o’u cartrefi eleni.
Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch o garreg eich drws am 11am ddydd Sul, 8 Tachwedd, a gwylio’r digwyddiadau cofio ar-lein neu ar y teledu.
Ystadegau Covid-19 yn eich ardal
Cofiwch eich bod bellach yn gallu dod o hyd i ystadegau Covid-19 eich ardal.
Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn crynhoi ffigyrau cyffredinol Wrecsam fesul ardaloedd llai… er enghraifft, Acton a Maesydre, Gresffordd, Merffordd a’r Orsedd, Rhiwabon a Marchwiail
Ymwelwch â’r dangosfwrdd, gwasgwch ar y tab ‘Cases by MSOA’ a dewiswch Wrecsam o’r ddewislen ‘Local Authority’ ar ochr dde’r sgrin.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG