Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio Covid-19 – rhowch hwb i’r Nadolig (trefnwch i gael eich pigiad atgyfnerthu)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio Covid-19 – rhowch hwb i’r Nadolig (trefnwch i gael eich pigiad atgyfnerthu)
Arall

Nodyn briffio Covid-19 – rhowch hwb i’r Nadolig (trefnwch i gael eich pigiad atgyfnerthu)

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2021 2:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Covid
RHANNU

Dros y dyddiau nesaf, bydd cannoedd o staff GIG a gwirfoddolwyr ychwanegol yn ymuno â’r ymdrech frechu yng Ngogledd Cymru.

Cynnwys
  • Sut i gael eich pigiad atgyfnerthu
  • “Prawf llif cyn mynd”
  • Gwisgwch fasg
  • Ysgolion yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)
  • Dolenni defnyddiol

Y nod yw cynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y mis hwn – i helpu i gyfyngu ar effaith yr amrywiolyn Omicron hynod heintus.

Mae’n dasg enfawr i’n gwasanaethau iechyd, sy’n parhau i weithio’n eithriadol o galed i’n cadw ni’n ddiogel.

Felly os gwelwch yn dda – pan fyddwch yn cael cyfle, ewch i gael eich pigiad atgyfnerthu.

Sut i gael eich pigiad atgyfnerthu

Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu eto, gellir archebu ar-lein rwan neu fynd i glinig galw heibio.

Neu mae’n bosibl y byddwch yn derbyn gwahoddiad uniongyrchol gan eich meddygfa neu fferyllfa gymunedol.

Os oes gennych apwyntiad eisoes ym mis Rhagfyr, yna cadwch hwn.

Os ydych yn gaeth i’ch cartref, nid oes angen cysylltu â’r GIG. Mae gan y bwrdd iechyd lleol eich manylion eisoes ac mae’n gweithio mor fuan â phosibl i’ch cyrraedd cyn diwedd mis Rhagfyr.

“Prawf llif cyn mynd”

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi ystyried gwneud “prawf llif unffordd cyn mynd allan”.

Felly, os ydych yn mynd i siopa, mynd i weld ffrindiau neu deulu, neu’n mynd i le prysur, ceisiwch wneud prawf cyn mynd.

Gallwch archebu profion am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru neu o fferyllfa leol.

Gallwch hefyd eu casglu yn:

  • Tŷ Pawb
  • Amgueddfa Wrecsam
  • Llyfrgell Wrecsam
  • Canolfan Hamdden y Waun
  • Canolfan Hamdden Gwyn Evans

Gwisgwch fasg

Oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae angen i chi barhau i wisgo masg dan do yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru – fel siopau ac ar gludiant cyhoeddus.

Covid

Ysgolion yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)

Bydd ysgolion ledled Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun nesaf (20 Rhagfyr) i helpu i gadw pawb yn ddiogel wrth nesáu at y Nadolig.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid yn y fwrdeistref sirol ac ar draws y rhan fwyaf o’r DU, gyda nifer o blant a phobl ifanc yn gorfod ynysu.

Hefyd mae posibilrwydd y bydd cadw ysgolion ar agor yr wythnos nesaf yn golygu mwy o bobl yn dal y feirws ac yn gorfod ynysu dros y Nadolig – a fyddai’n cael effaith anferth ar nifer o deuluoedd a chymunedau lleol.

O ganlyniad, gwnaed y penderfyniad i symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun am ddiwrnodau olaf y tymor

Darllenwch fwy

Dolenni defnyddiol

  • Cwestiynau Cyffredin am brofi symptomau ehangach
  • Sut i archebu prawf covid-19
  • Diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling A fyddwch chi’n mynd i’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig? Dyma ychydig o gyngor…
Erthygl nesaf Community Wellbeing Adeiladau’r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English