Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A fyddwch chi’n mynd i’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig? Dyma ychydig o gyngor…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > A fyddwch chi’n mynd i’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig? Dyma ychydig o gyngor…
Y cyngor

A fyddwch chi’n mynd i’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig? Dyma ychydig o gyngor…

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2021 10:17 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Recycling
RHANNU

Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur yn y canolfannau ailgylchu, felly mae’n syniad da iawn i drefnu eich ymweliad o flaen llaw i’w wneud mor hawdd a di-straen â phosibl.

Cynnwys
  • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
  • Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
  • “Ceisiwch osgoi’r cyfnodau prysur lle bo’n bosibl”
  • Oriau Agor
  • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
  • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?
  • Nodyn i’ch atgoffa o reolau’r ganolfan Ailgylchu

Rydym yn gwerthfawrogi y gall y Nadolig fod yn gyfnod sy’n achosi llawer o straen beth bynnag, a’ch bod yn debygol o fod eisiau mynd i mewn ac allan o’r cyfleusterau cyn gynted â phosibl. Dyma pam mae hi’n well paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch yn barod o flaen llaw.

Dyma rai pethau y gallwch ei wneud cyn cychwyn sydd wir yn ein helpu, ond sydd hefyd yn ei gwneud yn gyflymach a mwy esmwyth i chi hefyd…

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

“Ceisiwch osgoi’r cyfnodau prysur lle bo’n bosibl”

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gan lawer ohonom fwy o wastraff na’r arfer dros gyfnod y Nadolig, sy’n golygu bod y canolfannau ailgylchu yn brysurach yn gyffredinol o’i chymharu ag adegau eraill o’r flwyddyn. Pan fyddwch yn mynd i un o’r canolfannau ailgylchu, gwnewch yn siŵr bod eich dull adnabod yn barod gennych, a bod eich deunyddiau wedi’u didoli o flaen llaw yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir, gan y bydd hyn wir yn helpu i gyflymu eich ymweliad. Dylech hefyd feddwl am amseriad eich ymweliad a cheisio osgoi’r amseroedd prysur lle bo’n bosibl. Diolch.”

Oriau Agor

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
8am – 8pm

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
9am – 4pm

Noder y bydd y tri chanolfan ail-gychu ar gau ar ddiwrnod Nadolig.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Gyda mesurau Covid-19 ar waith, mae hi’n llawer anoddach i ni symud deunyddiau ailgylchadwy sydd wedi’u taflu i’r sgip gwastraff cyffredinol ar ein safleoedd, felly mae hi’n bwysig iawn sicrhau nad ydych chi’n dod ag unrhyw fagiau du allai gynnwys unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Mae’r siop ailddefnyddio ar agor yn ddyddiol rhwng 9am – 4:30pm, ond bydd yn cau ar gyfer y Nadolig ar ddydd Mercher, Rhagfyr 21. Ystyriwch hyn os ydych yn cynllunio galw heibio.

Yna bydd y siop yn ail-agor yn y flwyddyn newydd ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr.

Helpu’r siop ailddefnyddio (a gadewch i’r siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn

Nodyn i’ch atgoffa o reolau’r ganolfan Ailgylchu

Mae nifer o amodau yn ein canolfannau ailgylchu i sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn ddiogel. Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel.

Cyngor ynglŷn ag ailgylchu cyn y Nadolig

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu Bydd yn AILGYLCHWR GWYCH y Nadolig hwn – Ffeithiau a Syniadau Ailgylchu
Erthygl nesaf Covid Nodyn briffio Covid-19 – rhowch hwb i’r Nadolig (trefnwch i gael eich pigiad atgyfnerthu)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English