Oeddech chi’n gwybod bod yn rhaid i’ch ci fod ar dennyn bob amser?
Mae’r rheol wedi bod yn weithredol ers cychwyn Covid-19, ac mae’r rheol dal mewn grym. Fe fydd yn cael ei adolygu ym mis Medi ond tan hynny, cadwch eich ci ar dennyn bob amser.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn cadw eu cŵn ar dennyn bob amser.
“Yn anffodus nid yw rhai perchnogion yn gwneud hyn ac rydym ni’n eu hatgoffa’n gwrtais i roi’r ci ar dennyn. Mae er mwyn diogelwch pawb ac i atal unrhyw risg o beidio cadw pellter cymdeithasol os nad ydynt yn dychwelyd at eu perchnogion pan fyddant yn galw amdanynt.
“Byddwch yn gyfrifol am eich ci er mwyn atal unrhyw ddigwyddiadau tebyg rhag digwydd.”
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru gyngor defnyddiol iawn am berchnogaeth cŵn cyfrifol ar eu gwefan. Cymerwch amser i’w ddarllen, yn arbennig os ydych yn ystyried prynu ci.
YMGEISIWCH RŴAN