Mae’n bwysig iawn eich bod yn hynod ofalus wrth gael gwared ar eitem hunan-losgadwy megis tanc nwy.
Mae tanciau nwy – hyd yn oed pan maent yn wag – o bosibl yn beryglus a ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Mae eu rhoi yn eich biniau gwastraff cyffredinol neu ailgylchu yn beryglus iawn oherwydd y gallant ffrwydro neu frifo rhywun.
Sut y gall ffrwydrad ddigwydd?
Mae’r sector gwastraff wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion ledled y DU lle nad yw eitemau, yn cynnwys tanciau nwy a batris, wedi cael eu gwaredu’n gywir ac yna wedi achosi ffrwydrad.
Os ydych yn rhoi’r eitemau hyn yn eich biniau, rydych yn creu perygl ar gyfer y criwiau casglu yn ogystal â staff yn y canolfannau ailgylchu.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd eich criw casglu mewn perygl os yw’r batris neu’r tanciau nwy yn cael eu gwasgu gan y mecanwaith cywasgu yn eu cerbyd, a allai achosi ffrwydrad.
Mae hefyd posibilrwydd y gallai’r eitemau hyn ffrwydro wrth iddynt gael eu dadlwytho yn y canolfannau ailgylchu, lle y gallant achosi anafiadau difrifol i staff y ganolfan a difrod i beiriannau ac adeiladau.
Beth ddylwn i ei wneud gyda fy nhanc nwy?
Os oes gennych chi un, mae’n well i chi wirio gyda’r cwmni y gwnaethoch brynu ganddynt oherwydd dylent allu eu hail-lenwi neu gael gwared ohonynt i chi. Dyma’r peth cyfrifol i’w wneud.
O ran y tanciau boteli nwy llai na ellir eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogyddion coginio bach), gallwch eu hailgylchu gyda phlastig a chaniau ar ymyl palmant, ond DIM OND os nad oes hylif na nwy tu mewn.
“Gallant achosi tân”
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Os oes gennych chi danc nwy i gael gwared arno, mae’n bwysig bod yn gyfrifol a bydd arnoch angen cysylltu gyda’r cwmni neu’r cyflenwr a werthodd y tanc i chi’n wreiddiol. Ni ddylech roi eitemau gwastraff peryglus megis batris, silindrau nwy, cemegion neu ffynonellau gwres posibl eraill gyda’ch gwastraff cyffredinol. Mae rhoi’r eitemau hyn yn eich bin yn ddi-hid a gallant achosi tân gan greu sefyllfaoedd peryglus a fydd yn rhoi llawer o bobl mewn perygl.”
Batris
Batris lithiwm sy’n achosi’r nifer fwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y dair ganolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!
Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.
Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, edrychwch ar hyn…
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL