Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen O Fenis i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > O Fenis i Wrecsam
Arall

O Fenis i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2020 11:06 am
Rhannu
Darllen 3 funud
O Fenis i Wrecsam
Photograph by Adrian Sherratt; Installation of Undo Things Done, 2019, Sean Edwards, © Jamie Woodley
RHANNU

Tŷ Pawb fydd oriel gyntaf y DU i gynnal arddangosfa deithiol o un o sioeau celf mwyaf mawreddog y byd, gan ddechrau’r mis nesaf.

Mae Cymru yn Fenis yn cymryd celfyddydau gweledol o Gymru i un o arddangosfeydd celf mwyaf mawreddog y byd, La Biennale, a gynhelir yn Fenis bob dwy flynedd.

Ar gyfer Biennale 2019, dewiswyd Sean Edwards o Gaerdydd fel arlunydd Cymru yn Fenis.

Cafodd ei arddangosfa unigol, Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd, ei dangos yn eglwys brydferth Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis am 6 mis yn ystod La Biennale.

“Ennyd arwyddocaol” i Dŷ Pawb a Wrecsam

Felly sut mae Tŷ Pawb ynghlwm wrth y peth?

Efallai eich bod wedi darllen y newyddion anhygoel yn gynharach eleni bod Tŷ Pawb wedi’i ddewis fel y sefydliad arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis eleni.

Mae hyn yn golygu y bydd arddangosfa Cymru yn Fenis 2019, Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd, yn dod i Dŷ Pawb, y lleoliad cyntaf yn y DU ar daith yr arddangosfa.

Bydd hwn yn ennyd arwyddocaol i gyfleuster marchnadoedd, celfyddydau a chymunedol gwobredig Wrecsam.

Wrecsam ‘yn chwifio’r faner dros gelfyddydau Cymru’

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hi wedi bod yn anrhydedd fawr i Dŷ Pawb fod y sefydliad arweiniol dros Gymru yn Fenis 2019 ac rydym yn falch iawn mai Wrecsam fydd y gyrchfan gyntaf ar daith 2020 o arddangosfa deimladwy ac ingol Sean Edwards.

“Mae Cymru yn Fenis yn chwarae rôl enfawr wrth chwifio’r faner dros gelfyddydau Cymru yn un o arddangosfeydd celf mwyaf mawreddog y byd, ac rydym yn falch o allu dod ag ychydig o’r sylw rhyngwladol i Wrecsam a Thŷ Pawb.”

Cadwch y dyddiad yn rhydd

  • Mae Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd yn agor yn Nhŷ Pawb 18 Chwefror tan ddydd Sul 26 Ebrill.
  • Mae’r arddangosfa yna’n teithio i Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd (26 Gorffennaf – 9 Medi 2020) a Bluecoat, Lerpwl (6 Tachwedd, 2020 – 14 Mawrth 2021).
Rhannu
Erthygl flaenorol Amser i Siarad Amser i Siarad
Erthygl nesaf Whirlpool Adalw Peiriannau Golchi Whirlpool – ydy hyn yn effeithio arnoch chi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English