Erthygl Gwadd – Bryniau clwyd a Dyffryn Dyfrdwy,Tirwedd Cenedlaethol
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd crëwyd safleoedd denu i dwyllo’r Luftwaffe fel eu bod yn gwastraffu eu bomiau ar gefn gwlad agored, yn hytrach na bomio trefi, meysydd glanio a thargedau diwydiannol.
Cafodd y safle denu cyntaf yma yn Nhirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ei gynllunio yn ystod y pum niwrnod (28 Awst – 1 Medi) pan ymosodwyd yn ddifrïol ar Lannau Mersi. Cafodd gweundiroedd grug Rhiwabon a Mynydd Esclus eu llosgi’n fwriadol, a’r tân yn cael ei gadw am ddiwrnodau.
Denodd y cynllwyn hynod lwyddiannus hwn gannoedd o dunelli o fomiau ffrwydrol a thanbaid a oedd i fod i gael eu gollwng ar Lerpwl a Phenbedw. Mae craterau i’w gweld ar draws yr ardal hyd heddiw.
Ddiwedd 1940 crëwyd cyfres o safleoedd denu mwy trefnus, dan y ffugenw Starfish, o gwmpas Glannau Mersi, gyda’r rhai pellaf yn Llanasa a Llandegla. Roedden nhw’n cynnwys rhesi o fasgedi mawr yn llawn deunydd fflamadwy, a oedd yn cael eu tanio’n drydanol o fyncer rheoli gerllaw. Roedden nhw’n cael eu cynnau ar signal ffôn gan amlygu’r safle i awyrennau bomio.
Roedd gan y gwaith arfau cemegol yn Rhydymwyn ei safle denu ei hun ar lethrau isaf Moel Famau uwchben Cilcain. Mae adfeilion y byncer yn dal yno.
Roedd byncer tebyg, sydd mewn cyflwr ‘chydig bach yn well, yn rheoli safle denu ger y Mwynglawdd i amddiffyn RAF Wrecsam, neu Borras fel y’i gelwir yn lleol. Gosodwyd llwybr ffaglau, ynghyd â goleuadau i efelychu awyren yn symud.
Erthygl gan Dave Smith, Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

