Os hoffech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, fynd i ddathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng nghanol y ddinas ar 8 Mai, ond yn poeni am gerdded, beth am ddefnyddio ShopMobility?
Mae ShopMobility Wrecsam ar Stryt y Brenin ac mae’n cynnig offer amrywiol, i bobl o bob oedran, i helpu pobl â symudedd cyfyngedig.
Mae’n rhad ac am ddim i fod yn aelod o ShopMobility. Galwch i mewn i’w swyddfa gyda dwy fath o ddull adnabod (un gyda’ch llun ac un gyda’ch cyfeiriad) a chwblhau asesiad byr fel y gallant gynnig y sgwter gorau i chi ar gyfer eich anghenion.
Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm a gallant gynnig llogi cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd am ddiwrnod neu dros nos/hirdymor.
Beth yw’r gost?
Y dydd:
- Sgwter symudedd – £5 y dydd (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 4pm)
- Cadair olwyn – £3.50 (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 4pm)
Llogi dros nos neu hirdymor*:
- Sgwter cist (cludadwy, yn ffitio mewn cist car) – £10 y dydd
- Cadair olwyn – £5 y dydd
*Mae angen blaendal o £50 ar gyfer pob archeb hirdymor
Mae’r holl offer ar gael i’w gasglu a’i ddychwelyd yn swyddfa ShopMobility yng nghanol dinas Wrecsam, yn yr orsaf fysiau ar Stryt y Brenin.
Gellir dechrau aelodaeth am ddim i ShopMobility unrhyw bryd, felly os ydych chi’n meddwl y byddai sgwter neu gadair olwyn yn ateb da i chi, galwch heibio i’r swyddfa gyda’ch dau ddull adnabod, cwblhau’r asesiad byr ac rydych chi’n barod i fynd!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.