Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi teithio o amgylch y Fwrdeistref Sirol, mae Wrecsam yn lle sy’n llawn safleoedd hanesyddol rhyfeddol.

Pa un ai ystyriwch y cestyll a’r stadau mawr neu’r chwareli a’r glofeydd, mae yna gyfoeth o straeon o orffennol Wrecsam i’w canfod ymhob cwr o’n hardal leol.

Bydd mis Medi yn gyfle gwych i fynd allan a chanfod pethau eich hunain a hynny o ganlyniad i gyfres o ddigwyddiadau arbennig a fydd yn cael eu cynnal yn rhai o’n safleoedd hanesyddol gorau.

Cadw sy’n trefnu’r digwyddiadau Drws Agored. Mae’n gynllun cenedlaethol a’r bwriad yw agor rhai o safleoedd hanesyddol pwysicaf y wlad i’r cyhoedd am amser cyfyngedig.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Felly beth alla i weld yn Wrecsam?

Nodwch os gwelwch yn dda – mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer rhai o’r digwyddiadau hyn. Ewch i wefan Cadw i gael y manylion yn llawn.

Canolfan Adnoddau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd
10am-4pm Dydd Sadwrn Medi 1 a Dydd Sadwrn Medi 22

Mae Canolfan Adnoddau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd yn lle delfrydol i ddechrau olrhain hanes eich teulu. Mae nifer o gofnodion ar gyfer hen siroedd Fflint a Sir Ddinbych.

Dewch i gael cipolwg ar sut i ddechrau canfod gwybodaeth am hanes eich teulu. Bydd gwirfoddolwyr o’r Gymdeithas yn y ganolfan i roi arweiniad i chi.

Neuadd Goffa Ceiriog
1pm-4pm Dydd Sadwrn Medi 1 a Dydd Sadwrn Medi 8

Mae’r Neuadd Goffa yn adeilad rhestredig Gradd 2, wedi ei godi yn 1911 er cof am feirdd enwog Dyffryn Ceiriog – John ‘Ceiriog’ Hughes, Huw Morus a Robert ‘Cynddelw’ Ellis. Mae’n cynnwys nifer o arteffactau lleol a hanesyddol o fewn ei hamgueddfa, a foderneiddiwyd yn ddiweddar, a chasgliad rhagorol o ffenestri lliw sy’n darlunio cymeriadau a digwyddiadau yn llên gwerin Cymru.

Iscoyd Park
10.30am-4.00pm Dydd Mawrth Medi 4

Mae’r tŷ gwledig clasurol Sioraidd hwn gyda’i frics coch a adeiladwyd yn y 18fed ganrif (Gradd II*) wedi ei osod mewn parcdir, gydag adeiladau allanol eang sydd wedi’u trawsnewid i ddefnyddiau amrywiol gan gynnwys swyddfeydd, meithrinfa i blant cyn-ysgol a llety.

Castell y Waun
10am-4pm Dydd Sadwrn Medi 8

Cwblhawyd Castell y Waun yn 1310 yn ystod teyrnasiad Edward 1 i orchfygu tywysogion olaf Cymru ac mae’n symbol amlwg o bŵer.

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, ac fel y castell olaf o’r cyfnod hwn y parheir i breswylio ynddo heddiw, mae preswylwyr lu Castell y Waun wedi gadael elfennau mewnol helaeth ar eu hôl a chasgliad hardd ac eclectig.

Neuadd Erddig
10am-5pm Dydd Sadwrn Medi 8

Caiff y tŷ hwn sy’n llawn awyrgylch, a sydd â gardd furiog ffurfiol a pharc gwledig 485 hectar (1,200 erw), ei adnabod fel un o dai hanesyddol gorau Prydain. Mae Erddig yn dŷ gwledig o ran gyntaf y 18fed ganrif ac mae’n gyfareddol ac eto’n ddi-rwysg ac yn adlewyrchu bywyd llawr uchaf a llawr isaf teulu bonedd dros gyfnod o 250 mlynedd.

Tŷ Injan Glofa’r Bers                                                                                            10am-4pm Dydd Iau Medi 30

Mae Tŷ Injan Rhif 2 Glofa’r Bers yn adeilad rhestredig Gradd 2 gyda’i injan weindio yn gyflawn. Mae gwaith cynnal a chadw sylweddol yn cael ei gynnal ar y tŷ injan.

Y safle hwn sydd â’r unig benwisgoedd sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru, ac mae’n heneb gofrestredig a amddiffynnir yn gyfreithiol ac mae yng ngofal Cyngor Wrecsam.

Sut alla i gymryd rhan?

I gael rhagor o wybodaeth ac i ganfod mwy ynglŷn ag archebu lle, ewch i wefan Cadw.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Amgueddfeydd, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Wrecsam, ewch i wefan y cyngor.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION