Oes gennych chi unrhyw wisgoedd gwisg ffansi plant sydd yn rhy fach i’ch plant neu na fyddant yn eu gwisgo eto? Dyma ffordd wych i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn wastraff – a gallwch gael gwisg nesaf eich plentyn am ddim!
Mae staff yn Llyfrgell Wrecsam yn chwilio am roddion gwisgoedd gwisg ffansi ar gyfer Cyfnewid Gwisg Ffansi. Os byddwch yn dod â’ch gwisgoedd nad ydych eu hangen cyn 22 Chwefror, byddwch yn derbyn tocyn sy’n golygu y gallwch ddewis gwisg arall i fynd adref ar y Diwrnodau Cyfnewid ar 23 a 24 Chwefror ac 1 a 2 Mawrth, am ddim!
Mae’n rhaid i wisgoedd fod yn lân, mewn cyflwr da ac yn addas ar gyfer plant ysgol gynradd a pheidiwch â phoeni os nad ydych yn dymuno cael gwisg arall, gallwch roi eich tocyn i rywun arall sydd ei angen o bosibl.
Ar ddiwedd y Diwrnodau Cyfnewid Gwisg Ffansi bydd unrhyw wisgoedd dros ben yn cael eu rhoi i elusen.