Bydd ffilm 1969 Oh What a Lovely War, sef y ffilm gyntaf i Richard Attenborough ei chyfarwyddo, yn cael ei dangos yn Nhŷ Pawb ar 18 Tachwedd am 7pm
Mae Oh What a Lovely War yn crynhoi digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhoi sylwadau gan ddefnyddio caneuon poblogaidd o’r cyfnod, roedd llawer ohonynt yn barodïau o ganeuon poblogaidd hŷn, ac mae’n defnyddio lleoliadau alegorïaidd fel Pier Gorllewin Brighton i feirniadu’r modd cafodd y fuddugoliaeth yn y pen draw ei hennill.
Mae cast llawn sêr yn y ffilm, gan gynnwys Maggie Smith, Vanessa Redgrave, John Mills a Syr John Gielgud. Gyda llawer o eitemau cerddorol a chaneuon poblogaidd, mae’r ffilm yn dilyn bywydau teulu Smith sy’n cael eu dal yn y rhyfel – beth sy’n digwydd iddyn nhw a’r effaith mae’n ei chael arnynt.
Dim ond 110 o docynnau sydd ar gael, felly brysiwch!
Mae’r ffilm wedi cael tystysgrif PG a’r gost yw £8 i oedolion a £5 i fyfyrwyr a phobl ifanc.
I gael tocynnau, galwch heibio Siop//Shop yn Nhŷ Pawb neu gallwch eu prynu ar-lein yma (Dolen gyswllt Saesneg)
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN