Os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen cyngor yn ymwneud â niwroamrywiaeth yna fe fydd ein tudalen wybodaeth am gymorth ar-lein ac adnoddau yn hynod ddefnyddiol i chi.
Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, cefnogaeth i rieni, gofalwyr a gofalwyr di-dâl, Partneriaeth Budd-ddeiliaid Awtistiaeth Wrecsam (Grŵp WASP), sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc gydag awtistiaeth a llawer mwy.
Gallwch gael cipolwg ar yr hyn sydd ar gael yma.
Beth mae “Niwroamrywiaeth” yn ei olygu?
Mae’n derm mae plant a phobl ifanc yn ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio’u hunain. Ond beth mae’n ei olygu i fod yn niwroamrywiol ac o lle y daw’r term?
Cafodd y term niwroamrywiaeth ei fathu yn y 1990au i frwydro yn erbyn stigma a hyrwyddo derbyn pobl gydag awtistiaeth. Ond mae hefyd yn cynnwys cyflyrau eraill sy’n ymwneud â gwahaniaethau niwrolegol, fel ADHD ac anhwylderau dysgu fel dyslecsia a dyscalcwlia.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae Cyngor Wrecsam yn dymuno recriwtio mwy o dalent yn dilyn arolwg ‘gorau erioed’ o Ofal Cymdeithasol Plant