Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch Wrecsam i gofio glaniadau D-Day – cefnogwch yr orymdaith yng nghanol y ddinas ar 6 Mehefin
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Helpwch Wrecsam i gofio glaniadau D-Day – cefnogwch yr orymdaith yng nghanol y ddinas ar 6 Mehefin
Pobl a lle

Helpwch Wrecsam i gofio glaniadau D-Day – cefnogwch yr orymdaith yng nghanol y ddinas ar 6 Mehefin

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 3, 2024 11:44 am
Rhannu
Darllen 3 funud
D-Day
RHANNU

Dydd Iau, 6 Mehefin bydd Wrecsam yn ymuno â’r genedl i gofio glaniadau D-Day 80 mlynedd wedi i filwyr y Cynghreiriaid gyrraedd glannau gogledd Ffrainc.

Nododd y glaniadau ddechrau’r frwydr i ryddhau gorllewin Ewrop, a phrofodd i fod yn foment ganolog yn yr Ail Ryfel Byd – gan arwain yn y pen draw at orchfygu grymoedd Hitler ar ffrynt y gorllewin.

Mae’n anodd dychmygu’r dewrder, ofn a’r dioddefaint y profodd nifer o filwyr cyn ac yn ystod glaniadau D-Day a’r profiad i’w teuluoedd yn ôl adref wrth iddynt boeni am eu hanwyliaid.

Felly Dydd Iau 6 Mehefin bydd y ddinas yn chwarae ei rhan i gofio’r rhai hynny a ymladdodd a’r rhai hynny a gollodd eu bywydau ar draethau Normandi.

Bydd gorymdaith D-Day yn cychwyn o Eglwys San Silyn yn Wrecsam

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i gefnogi’r orymdaith, sy’n cychwyn o Eglwys San Silyn am 1.15pm.

Bydd yr orymdaith yn mynd at Gofeb Milwyr Normandi ym Modhyfryd, lle bydd gwasanaeth byr i osod torchau.

Bydd y Corfflu Drymiau a’r Banerwyr yn arwain yr orymdaith, aelodau o gymuned y lluoedd arfog, Maer Wrecsam y Cynghorydd Beryl Blackmore, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry Jones.

Bydd yr orymdaith hefyd yn cynnwys aelodau o griw HMS Dragon a hwn fydd y tro cyntaf i’r criw ymweld â Wrecsam ers i’r ddinas gael ei chysylltu’n swyddogol gyda’r llong ryfel ddiwedd mis Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Dewch draw os gwelwch yn dda i gefnogi’r orymdaith, a helpwch ni i dalu teyrnged i’r rhai hynny a frwydrodd ac a gollodd eu bywydau ar draethau Normandi yn 1944.

“Fe helpodd eu haberth a’u dewrder i sicrhau’r rhyddid rydym ni’n ei fwynhau heddiw, ac mae hi mor bwysig ein bod ni’n cofio’r hyn a wnaethant drosom ni.

“Hwn hefyd fydd y tro cyntaf y bydd criw o HMS Dragon yn ymweld â’r ddinas, ac fe fyddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl yn dod draw i roi croeso cynnes iddynt.”

HMS Dragon
Rhannu
Erthygl flaenorol Neurodiversity Niwroamrywiaeth – mae cefnogaeth ar-lein ac adnoddau nawr ar gael
Erthygl nesaf Wrexham Pride Pride cyntaf erioed i’w gynnal yn Wrecsam ym mis Gorffennaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English