Efallai eich bod chi wedi darllen yn ddiweddar am Gadetiaid Heddlu gwirfoddol yn helpu swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Masnach gyda gweithgareddau siopa cudd yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â throseddau yn ymwneud â chyllyll.
Cynhaliwyd y siopa cudd fel rhan o ymgyrch Op Sceptre, ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael a throseddau yn ymwneud â chyllyll. Fel rhan o’r ymgyrch wythnos hon, ymwelodd y cadetiaid â 63 o siopau ar draws y gogledd i geisio prynu cyllyll.
Yn Wrecsam, ymwelwyd ag 16 o siopau gydag un siop yn unig yn gwerthu cyllell i’r siopwr cudd – y nifer lleiaf yng ngogledd Cymru. Er bod angen canmol hyn mae un siop yn un siop yn ormod a bydd y siop dan sylw yn derbyn ymweliad a bydd y staff yn cael eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau i sicrhau eu bod yn cadw at y gyfraith wrth werthu cyllyll.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu cyllyll neu eitem finiog debyg i berson dan 18 oed. Mae gwneud hynny yn drosedd y mae’r gwerthwr a’r busnes yn atebol amdani a gall arwain at ddedfryd o garchar a dirwy heb derfyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae pryderon ynghylch troseddau yn ymwneud â chyllyll wedi cael cryn dipyn o sylw yn y newyddion cenedlaethol yn ddiweddar ac er nad yw’n broblem fawr yn Wrecsam ni ddylem ei hanwybyddu, ac mae’n beth da i ni aros yn wyliadwrus i sicrhau bod pethau’n aros felly. Mae’n bwysig bod mân-werthwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau dan y gyfraith er mwyn i ni wneud yn siŵr nad yw pobl ifanc yn gallu prynu cyllyll mewn siopau. Fel awdurdod lleol rydym ni wastad yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu ac asiantaethau eraill i ddiogelu pobl Wrecsam.”
Meddai’r Ditectif Arolygwr Tecwyn Green o Heddlu Gogledd Cymru: “Pwrpas yr ymgyrch – sef y tro cyntaf i Heddlu Gogledd Cymru gynnal ymgyrch gydlynol ar y cyd ag eraill i fynd i’r afael â throseddau yn ymwneud a chyllyll, oedd profi siopau lleol ar eu hymwybyddiaeth o’r gyfraith, eu mesurau diogelwch a’u cynlluniau gwirio oed.
“Mae mân-werthwyr yn chwarae rhan bwysig i sicrhau nad yw pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gyllyll a’u defnyddio i achosi niwed. Er ein bod ni’n falch bod 49 o siopau wedi gwrthod gwerthu cyllyll i’n cadetiaid oherwydd nad oedd ganddyn nhw brawf oed, yn anffodus bu i nifer o siopau ganiatáu i bobl ifanc brynu cyllell. Bydd tîm trwyddedu’r awdurdodau lleol perthnasol rŵan yn gweithio gyda’r siopau hynny i drafod a datrys y mater.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru a’r holl asiantaethau partner wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â throseddau yn ymwneud â chyllyll. Os ydych chi’n cario cyllell, rydych chi’n rhoi eich hun mewn perygl yn ogystal â phobl eraill. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda mân-werthwyr a chynnal gweithgareddau siopa cudd pellach i sicrhau bod pob busnes yn cadw at y gyfraith.”
Os oes gennych chi wybodaeth am drosedd yn ymwneud â chyllell, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n cario cyllell, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y gwe-sgwrs byw. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Cofiwch, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN