Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth Archebu a Chasglu ar gael yn Llyfrgell Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwasanaeth Archebu a Chasglu ar gael yn Llyfrgell Wrecsam
Y cyngor

Gwasanaeth Archebu a Chasglu ar gael yn Llyfrgell Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 6, 2020 4:40 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
surgery to waterloo
RHANNU

Gwyddom eich bod i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld llyfrgelloedd yn ailagor ac er mwyn gwneud hynny’n ddiogel rydym wedi trefnu system “archebu a chasglu” yn Llyfgrell Wrecsam.

Caiff y gwasanaeth ei brofi o heddiw ymlaen yn Llyfrgell Wrecsam, gyda’r bwriad o gyflwyno’r gwasanaeth yn raddol ledled y sir.

Mae’r stoc sydd ar gael yn gyfyngedig ar hyn o bryd wrth i ni ddisgwyl am gyflenwadau o lyfrau newydd. Bydd y staff yn gwneud eu gorau i gael y llyfrau sydd eu heisiau arnoch mor gyflym ag y gallant.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut i ailagor llyfrgelloedd.  Gallai’r canllawiau hynny newid wrth i ni symud ymlaen.

Sylwch y bydd pob llyfr a ddychwelir i’r llyfrgell yn cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr.

I archebu llyfr i’w gasglu ewch ar-lein ar

https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy

Pan fydd eich llyfrau yn barod i’w casglu bydd y staff yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad casglu. Gallwch ddychwelyd llyfrau ar yr un pryd â’ch apwyntiad i gasglu llyfrau. Os ydych ond eisiau dychwelyd llyfrau, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r llyfrgell trwy e-bost library@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio 01978 292090 i drefnu apwyntiad.

Bydd yr holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg ac unrhyw rai y byddwch yn eu benthyca trwy’r Gwasanaeth Archebu a Chasglu yn cael eu hadnewyddu fel mater o drefn felly ni fydd angen i chi boeni am ddychwelyd eich llyfrau ar amser ac ni fyddwch yn cael unrhyw ddirwyon.

Bydd ein Gwasanaeth Cyswllt Cartref yn dod â llyfrau i gwsmeriaid yn ôl yr arfer o 1 Gorffennaf ymlaen a byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi eto!

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi:

“Mae staff llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed er mwyn ailddechrau gwasanaethau yn ddiogel yn llyfrgell Wrecsam a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgell yn gallu dechrau cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i drigolion unwaith eto.

“Byddwch yn amyneddgar wrth i ni gyd barhau i roi blaenoriaeth i ddiogelwch staff a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn o ailagor gwasanaethau yn raddol.”

Gwiriwch y wasg leol, Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor cyn ymweld â ni.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, dilynwch y rheolau isod.

  1. Peidiwch â mynd i’r llyfrgell os oes gennych chi neu rywun sy’n byw ar yr un aelwyd â chi symptomau Covid-19, neu os ydych yn amau bod gennych symptomau, neu os ydych yn ‘gwarchod’ eich hun oherwydd cyflwr iechyd blaenorol.
  2. Peidiwch â dychwelyd eich eitemau llyfrgell mewn bag neu gynhwysydd.
  3. Rhowch yr eitemau yr ydych yn eu dychwelyd i’r llyfrgell yn y cynhwysydd dychwelyd.
  4. Dychwelwch eitemau i’r llyfrgell wrth gasglu eich archeb yn unig.
  5. Sylwch nad yw gwasanaethau a chyfleusterau eraill y llyfrgell ar gael ar hyn o bryd.
  6. Ni allwch archebu cryno ddisgiau na DVDau trwy ein ‘Gwasanaeth Archebu a Chasglu’.
  7. Mae’n rhaid i chi ddod â’ch cerdyn aelodaeth gyda chi wrth gasglu eitemau a archebwyd.
  8. Casglwch eich archeb a gadewch y llyfrgell yn syth.
  9. Mae’n rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
  10. Byddwch yn amyneddgar os oes ciw.
  11. Cofiwch gadw 2m rhyngoch chi a phobl eraill
  12. E-bostiwch neu ffoniwch i drefnu apwyntiad i ddychwelyd eich eitemau i’r llyfrgell

Diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni ail-lunio’ch gwasanaeth llyfrgell lleol.

Gyda’ch cymorth chi gallwn weithio’n ddiogel er lles pawb yn Wrecsam.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Henblas Street Ailagor Toiledau Cyhoeddus Stryd Henblas – gyda phwyslais ar ddiogelwch
Erthygl nesaf ty pawb Mae Tŷ Pawb ar agor!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English