Rydym yn gwybod fod casglu biniau gwastraff a biniau ailgylchu yn brydlon yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Wrecsam, ac i’r mwyafrif ohonom, mae hyn yn digwydd yn ddidrafferth.
Ond yn anffodus, mae rhai achlysuron lle nad yw hyn yn digwydd, ac weithiau mae’n ymwneud â phroblemau mynediad.
Edrychwch ar y lluniau isod a chewch weld rhai o’r problemau y mae ein lorïau bin a’n cerbydau ailgylchu yn eu hwynebu o ganlyniad i geir/faniau sydd wedi parcio ac yn eu rhwystro rhag cael mynediad at eiddo.
Yn anffodus, ar yr achlysuron hyn, nid oedd ein cerbydau’n gallu mynd heibio ac roedd hynny’n golygu fod rhai trigolion wedi methu allan ar eu casgliad bin a/neu ailgylchu.
Cofiwch fod ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod. Os nad yw’r gyrrwr yn credu y gallant wneud hynny, mae’n rhaid iddynt fynd yn ôl sy’n golygu eu bod yn gorfod siomi rhai aelwydydd… ac rydym yn siŵr nad oes arnoch chi eisiau achosi i’r stryd gyfan fethu allan ar eu casgliadau bin.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON
Gallwch ein helpu i osgoi hyn drwy gymryd gofal pan fyddwch yn parcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.
Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd a gwiriwch fod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.
Meddai’r Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gwneud ein gorau i beidio â siomi ein trigolion, ond o bryd i’w gilydd, nid yw ein cerbydau yn gallu cyrraedd lleoliadau, ac mae hyn yn arwain at fethu casgliadau sy’n golygu ein bod yn siomi rhai pobl.
“Felly, rydym yn gofyn i’n trigolion fod yn ofalus iawn wrth barcio ar eu diwrnod casglu er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel hyn. Rydym yn casglu gwastraff gan 64,000 o gartrefi bob wythnos.”
Gallwch helpu ein criwiau drwy gymryd y camau syml hyn. Os ydych chi’n gweld y gallai cerbyd eich cymydog ein hatal rhag cael mynediad at eich stryd, rhannwch y neges â nhw hefyd … y mwyaf o bobl fydd yn ymwybodol o hyn, y lleiaf tebygol yw’r posibilrwydd y cewch eich siomi ar eich diwrnod casglu.
Mae technoleg wedi’i osod ym mhob un o’n cerbydau – gan gynnwys teledu cylch caeedig – sy’n caniatáu i’r criwiau gadw cofnod o finiau nad ydynt wedi’u cyflwyno cyn 07:30am, neu unrhyw broblemau yn ymwneud â mynediad, sy’n atal ein criwiau rhag ymgymryd â chasgliadau.
Gellir rhoi gwybod am gasgliadau a fethwyd drwy ffonio 01978 298989 neu ar-lein yma. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni cyn 3pm, byddwn yn casglu eich biniau i mewn y tri diwrnod gwaith nesaf os yw CBSW sydd ar fai. Os nid yw’r cyngor ar fai am gasgliadau a fethwyd, byddwn yn casglu eich gwastraff ar eich dyddiad casglu nesaf sydd wedi’i nodi ar eich calendr.
Gellir gwirio eich diwrnod casglu yma!
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION