Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad … beth am ein helpu i osgoi hyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad … beth am ein helpu i osgoi hyn?
Y cyngor

Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad … beth am ein helpu i osgoi hyn?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 7, 2019 10:49 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad ... beth am ein helpu i osgoi hyn?
RHANNU

Rydym yn gwybod fod casglu biniau gwastraff a biniau ailgylchu yn brydlon yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Wrecsam, ac i’r mwyafrif ohonom, mae hyn yn digwydd yn ddidrafferth.

Ond yn anffodus, mae rhai achlysuron lle nad yw hyn yn digwydd, ac weithiau mae’n ymwneud â phroblemau mynediad.

Edrychwch ar y lluniau isod a chewch weld rhai o’r problemau y mae ein lorïau bin a’n cerbydau ailgylchu yn eu hwynebu o ganlyniad i geir/faniau sydd wedi parcio ac yn eu rhwystro rhag cael mynediad at eiddo.

Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad ... beth am ein helpu i osgoi hyn?
Vehicle access issues
Os nad yw eich bin wedi cael ei wagu, efallai bod problem yn ymwneud â mynediad ... beth am ein helpu i osgoi hyn?

Yn anffodus, ar yr achlysuron hyn, nid oedd ein cerbydau’n gallu mynd heibio ac roedd hynny’n golygu fod rhai trigolion wedi methu allan ar eu casgliad bin a/neu ailgylchu.

Cofiwch fod ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod. Os nad yw’r gyrrwr yn credu y gallant wneud hynny, mae’n rhaid iddynt fynd yn ôl sy’n golygu eu bod yn gorfod siomi rhai aelwydydd… ac rydym yn siŵr nad oes arnoch chi eisiau achosi i’r stryd gyfan fethu allan ar eu casgliadau bin.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON

Gallwch ein helpu i osgoi hyn drwy gymryd gofal pan fyddwch yn parcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.

Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd a gwiriwch fod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.

Meddai’r Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gwneud ein gorau i beidio â siomi ein trigolion, ond o bryd i’w gilydd, nid yw ein cerbydau yn gallu cyrraedd lleoliadau, ac mae hyn yn arwain at fethu casgliadau sy’n golygu ein bod yn siomi rhai pobl.

“Felly, rydym yn gofyn i’n trigolion fod yn ofalus iawn wrth barcio ar eu diwrnod casglu er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel hyn. Rydym yn casglu gwastraff gan 64,000 o gartrefi bob wythnos.”

Gallwch helpu ein criwiau drwy gymryd y camau syml hyn. Os ydych chi’n gweld y gallai cerbyd eich cymydog ein hatal rhag cael mynediad at eich stryd, rhannwch y neges â nhw hefyd … y mwyaf o bobl fydd yn ymwybodol o hyn, y lleiaf tebygol yw’r posibilrwydd y cewch eich siomi ar eich diwrnod casglu.

Mae technoleg wedi’i osod ym mhob un o’n cerbydau – gan gynnwys teledu cylch caeedig – sy’n caniatáu i’r criwiau gadw cofnod o finiau nad ydynt wedi’u cyflwyno cyn 07:30am, neu unrhyw broblemau yn ymwneud â mynediad, sy’n atal ein criwiau rhag ymgymryd â chasgliadau.

Gellir rhoi gwybod am gasgliadau a fethwyd drwy ffonio 01978 298989 neu ar-lein yma. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni cyn 3pm, byddwn yn casglu eich biniau i mewn y tri diwrnod gwaith nesaf os yw CBSW sydd ar fai. Os nid yw’r cyngor ar fai am gasgliadau a fethwyd, byddwn yn casglu eich gwastraff ar eich dyddiad casglu nesaf sydd wedi’i nodi ar eich calendr.

Gellir gwirio eich diwrnod casglu yma!

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Tips Facts Wrexham Council A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #2
Erthygl nesaf Cwmni lleol yn cytuno i noddi arddangosfa chwarae Tŷ Pawb Cwmni lleol yn cytuno i noddi arddangosfa chwarae Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English