Dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf a gyda chymorth dros 500 o wirfoddolwyr, plannwyd mwy na 10,000 o goed ledled y fwrdeistref sirol.
Mae’r gwaith hwn hefyd yn cefnogi ein strategaeth Coed a Choetir ac ymrwymiad i gynyddu canopi’r coed yn Wrecsam. Mae arian gan Gronfa Goed Argyfwng Coed Cadw, Coed i Ddinasoedd a Fy Nghoeden, Ein Coedwig wedi cefnogi’r llwyddiant enfawr hwn ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth.
Mae cynefinoedd coetir o dan fygythiad gan nifer o bethau megis colli cynefin ac afiechyd ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd diogelu cynefin allweddol o’r fath i bobl a bywyd gwyllt.
Bydd ein cynlluniau plannu coed yn creu coridorau bywyd gwyllt bioamrywiol i ganiatáu i amrywiaeth o anifeiliaid symud rhwng cynefinoedd, sy’n gynyddol bwysig mewn ardaloedd trefol. Mae hyn yn allweddol i ymdrin â’r argyfwng natur a gyhoeddwyd i Gymru ac rydym yn ymateb i effeithiau newid hinsawdd, colli a darnio cynefin.
Mae’n amser i ni gyd ddisgyn mewn cariad gyda choed
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol, “Mae sawl mantais i blannu coed a choetiroedd sy’n mynd y tu hwnt i greu cynefin i fywyd gwyllt. Gall coed gefnogi iechyd a lles, gwella ansawdd aer, cynnig cysgod, atal colli maeth ac erydiad pridd, gwella ansawdd dŵr, a lleihau’r perygl o lifogydd.
“Mae’n amser i ni gyd ddisgyn mewn cariad gyda choed gan eu bod yn cynnig cymaint i’n hansawdd bywyd. Gallwch ddysgu mwy am goed a choetiroedd trwy gydol y gwanwyn a’r haf trwy ymuno â ni mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled y Sir.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ymunwch â’r addewid coetir a’r e-fwletin a fydd ar gael yn fuan!
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD