Roedd y Ffair Swyddi yn Wrecsam a drefnwyd gan Gymunedau am Waith a Mwy ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n llwyddiannus iawn.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanol Dinas Wrecsam ac roedd 40 o gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth yn bresennol i gysylltu gyda cheiswyr gwaith, darparu gwybodaeth am eu cyfleoedd gwaith a manylion unrhyw swyddi gwag.
Roedd yn gyfle i’r dros 600 o geiswyr gwaith a oedd yn bresennol ryngweithio gyda chynrychiolwyr cyflogwyr megis y GIG, Cyngor Wrecsam a Sir y Fflint, Hoya Lens, Magellan, Heddlu Gogledd Cymru a’r Post Brenhinol.
Manteisiodd cyfranogwyr ar y cyfle i arddangos eu sgiliau, rhwydweithio â chyflogwyr posibl a chymryd rhan mewn cyfweliadau anffurfiol. Roedd amgylchedd cynhyrchiol iawn yn y digwyddiad, a chyfle i geiswyr gwaith gysylltu â chyflogwyr, a allai arwain at gydweithrediadau a lleoliadau gwaith llwyddiannus.
Roedd ysbryd cydweithredol a chyfranogiad rhagweithiol y mynychwyr yn sicr wedi cyfrannu at lwyddiant y ffair, gan roi pwyslais ar bŵer a chefnogaeth gymunedol o fewn y byd cyflogaeth.
“Mae Ffeiriau Swyddi’n cynnig cyfleoedd gwych”
Meddai’r Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae Ffeiriau Swyddi’n cynnig cyfleoedd gwych i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu’n awyddus i newid gyrfa. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a’r holl gyflogwyr a oedd yn bresennol i arddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig.”
Beth oedd barn cyflogwyr am y Ffair Swyddi?
Mairi Chaplin COPA – “Digwyddiad gwych wedi’i drefnu’n dda iawn. Roedd yn wych gweld gymaint o bobl yn chwilio am gyfleoedd newydd.”
Aimee Chesters – Eleven11 Group. – “Cawsom ymweliad llwyddiannus iawn â ffair swyddi Wrecsam, roedd yn gyfle gwych i gysylltu ag unigolion ac arddangos y cyfleoedd gyrfaol anhygoel sydd gennym i’w cynnig. Roedd ein tîm yn falch iawn o gael cyfarfod gymaint o geiswyr gwaith brwdfrydig a rhannu gwybodaeth werthfawr am ein cwmni a’r prosiectau cyffrous sydd ar y gweill gennym.”
Cassie Atkins – Draig Recruitment – “Roedd yn ddigwyddiad ardderchog; y digwyddiad gorau yr wyf wedi’i fynychu. Wnes i ddim stopio siarad â phobl am 2 awr, a diolch i’r digwyddiad, mae nifer o bobl bellach wedi cofrestru gyda ni.”
Rhonwen Hughes – Employment Plus –Byddin yr Iachawdwriaeth – “Roedd yn ddigwyddiad gwych, gyda’r nifer perffaith o gyflogwyr a darparwyr yn bresennol. Roedd yn wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad hwn.”
Mae Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam ar gael i’ch cefnogi i ddod o hyd i swydd os ydych yn byw yn Wrecsam, yn 19+ oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd. Gallwch hunanatgyfeirio at y prosiect yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024