Mae darn o gelf yn dangos rôl Neuadd y Dref Cyngor Wrecsam ym mywyd bob dydd y fwrdeistref sirol.
Mae paentiad newydd o Neuadd y Dref, a dynnwyd gan artist o Lundain, Niloufar Bakhshalian, yn cael ei arddangos yng nghoridor y llawr cyntaf yn Neuadd y Dref, yn ymyl y swyddfa gofrestru.
Mae’r paentiad yn darlunio tu blaen Neuadd y Dref o Lwyn Isaf, gyda golygfa o briodas yn y canol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cynhyrchwyd y paentiad fel rhan o gasgliad o waith celf yn dangos neuaddau tref ac adeiladau tirnod ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys Palas Alexandra yn Haringey, Pencadlys Cyngor Sir Caint a Neuadd Tref Ealing.
Rhoddwyd y casgliad at ei gilydd gan Martin Reddington Associates (MRA), a fu’n gweithio gyda Chyngor Wrecsam yn ôl yn 2015 i lunio arolwg ar brofiadau gweithiwr.
Nid yw’r paentiad wedi costio dim i’r cyngor, a chafodd ei gynhyrchu fel rhan o’r gwaith i’r arolwg.
“Pwyslais ar bobl fel agwedd bwysig o’r Cyngor”
Ymwelodd Niloufar â Neuadd y Dref yn y gaeaf a chyfweld y staff, gan ofyn iddynt am eu hargraffiadau o’r adeilad a chyfuno’r wybodaeth a’r delweddau oedd eu hangen er mwyn iddi ei gynrychioli.
Dywedodd: “Mae cynrychioli’r adeiladau mewn celf yn darparu dull o archwilio’r bobl, y diwylliant, yr heriau a’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd, oherwydd dyma’r lleoliad lle y mae’r gweithwyr yn ymgynnull yn gorfforol o ddydd i ddydd.”
“Roedd y lawnt yn amlwg gan ei fod yn olygfaol a phan gefais fy nghyflwyno i’r hanes a’r agweddau traddodiadol, roedd yn apelio’n fawr ataf i.
“Y prif beth oedd yn amlwg i mi oedd y pwyslais ar bobl fel elfen bwysig o’r Cyngor. Cefais fy nghyflwyno i’r diwylliant o gynnal seremonïau priodas a chofrestriadau genedigaethau yn yr adeilad.”
“Paentiad yn dangos swyddogaeth ganolog Neuadd y Dref”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o gael y paentiad hwn ac yn gallu dangos y gwaith terfynol yn Neuadd y Dref ei hun.
“Mae’n arbennig o braf gweld bod priodas yn rhan o’r paentiad gan fod Neuadd y Dref yn chwarae rôl bwysig ym mywydau llawer o bobl yn Wrecsam – yn arbennig pan mae’n dod i gofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau.
“Mae’r rhain i gyd yn bynciau pwysig iawn ac mae Neuadd y Dref y chwarae rôl ddinesig ganolog a blaenllaw ym mhob un ohonynt, felly rwy’n falch bod gwaith Niloufar wedi cynnwys hynny.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI