Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Os felly, ydych chi’n ailgylchu popeth y mae modd i chi wneud?
Sylwch, Cymru yw’r drydedd genedl orau am ailgylchu yn y byd ar hyn o bryd, nid yw hynny’n ddrwg o gwbl. Mae 95% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond mae dal llawer o le i wella o ran gwastraff bwyd.
Yn Wrecsam, rydym yn amcangyfrif bod llai na hanner ein preswylwyr yn ailgylchu eu gwastraff bwyd a bod y gweddill yn cael ei roi yn ein biniau sbwriel.
Beth sy’n mynd i mewn i’ch cadi bwyd?
Os hoffech gael eich atgoffa o’r hyn y dylech ei roi yn eich cadi, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.
Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddech chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:
- Bwydydd sydd dros y dyddiad
- Esgyrn a charcasau
- Plisgyn wyau
- Croen banana (a philion eraill)
- Canol afalau
- Coffi mân
- Bwydydd amrwd
- Bwydydd sydd wedi llwydo
- Crafion platiau
- Prydau parod heb eu bwyta
- Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
- Pysgod cregyn
Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.
Dyna beth y mae modd ei ailgylchu, felly beth am symud ymlaen i edrych ar pam y dylech ailgylchu eich gwastraff bwyd 🙂
Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!
Defnyddir eich gwastraff bwyd a gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn.
Felly, yn hytrach na rhoi bwyd yn eich bin gwastraff cyffredinol, beth am ddechrau ailgylchu eich bwyd dros ben a’i droi’n rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim. Mae’n swnio fel syniad da, tydi?
Mae’n fwy glanwaith!
Roedd ymchwil WRAP Cymru’n dangos mai’r ‘ffactor ych a fi’ (yuck factor) yw’r rhwystr mwyaf i bobl, gan eu bod yn pryderu am arogleuon, gollyngiadau ac arllwysiadau.
Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac yn fwy glanwaith na’i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis bwyd ei gasglu bob wythnos, tra bod ein gwastraff anailgylchadwy yn cael ei gasglu’n llai aml.
Gan gadw hyn mewn cof, gofynnwch i’ch hun eto ‘pam nad ydw i’n ailgylchu fy mwyd dros ben?’ Oes gennych chi ateb? Ai un o’r rhain yw’r ateb?
- I arbed amser efallai? Anghywir. Mae rhoi bwyd dros ben mewn cadi bwyd yn cymryd yr un faint o amser â’u rhoi nhw yn unrhyw le arall.
- Mae bagiau i’r cadi yn ddrud. Nac ydyn, rydym wedi bod yn darparu bagiau rhad ac am ddim i’r cadis ers tro bellach. Gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu cadi ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi yn rhad ac am ddim. Neu, os yw’n well gennych, gallwch gasglu rhai o un o’r 40+ lleoliad yn Wrecsam sy’n eu cadw.
- Mae fy nghadi bwyd wedi torri. Dim problem, gallwch wneud cais am un newydd am ddim ar ein gwefan.
Felly, does ddim rheswm pam na ddylech chi ailgylchu gwastraff bwyd. Gan ein bod yn trafod y pwnc yma, dyma rai awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu dilyn…
Helpwch ni i wneud yn well, a dysgwch fwy trwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.