Wyddoch chi fod mesurau ar gyfer perchnogion cŵn mewn grym ar draws y fwrdeistref sirol a dylech fod yn gyfarwydd â nhw er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn torri’r rheolau.
Pan fyddwch ar briffordd neu lwybr troed dylai cŵn fod ar dennyn bob amser.
Pan fyddwch yn ymweld â’n parciau gwledig dylai’r cŵn fod ar dennyn yn y Canolfannau
Ymwelwyr a’r meysydd parcio ond gallant redeg yn rhydd a mwynhau ardaloedd eraill y parc.
Ni chaniateir cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwarae sydd wedi’u marcio ac ardaloedd chwarae plant sydd wedi’u ffensio, parciau sgrialu, cyrtiau tennis nac ardaloedd chwarae aml-ddefnydd.
Dylai perchnogion hefyd sicrhau fod ganddynt fag gyda nhw wrth ymarfer eu cŵn er mwyn sicrhau eu bod yn codi baw ar ôl eu cŵn.
Gallai methu glynu at y mesurau olygu eich bod yn derbyn diryw o £100 a does neb am weld hynny’n digwydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r mesurau hyn yn rhan o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a ddaeth i rym yn gynharach eleni yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddangos cefnogaeth gref am reolaeth cŵn mewn rhannau penodol o’n parciau a chanolfannau ymwelwyr. Maent yn weithredol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ac mae arwyddion amlwg ar eu cyfer yn ein parciau a’n mannau cyhoeddus.
“Maen nhw’n hawdd iawn eu deall”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r mesurau newydd wedi derbyn canmoliaeth ac ar gyfer y rhan fwyaf o berchnogion cŵn, synnwyr cyffredin ydynt. Maen nhw’n hawdd iawn i’w deall ac nid ydym yn credu y dylai unrhyw un fod yn ansicr o lle gellir gadael cŵn oddi ar dennyn. Gellir cyflwyno dirywion felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r mesurau newydd pan fyddwch o gwmpas yr ardal gyda’ch ci.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI