Mae ffigurau heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod yr achosion yn Wrecsam wedi cynyddu o 33.1 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth ar ddydd Mawrth i 59.6 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth erbyn heddiw.
Mae’r ffigurau yma’n seiliedig ar gyfnod treigl o saith diwrnod ac maent yn dangos cynnydd sylweddol mewn 48 awr.
Nid niferoedd ar siart sydd gennym mewn golwg yma. Mae’r ffigurau yma’n cynrychioli pobl go iawn yn ein cymuned, ac yn anffodus mae yna siawns y gallai rhai ohonynt fod yn sâl iawn.
Mae hyn yn tanlinellu pam mai cyflwyno cyfyngiadau lleol ychwanegol yn Wrecsam am 6pm heno yw’r peth cywir i wneud.
Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Mae’r duedd ar i fyny yn ddifrifol, ac mae’r ffigurau – sy’n seiliedig ar gyfnod treigl o saith diwrnod – yn dangos unwaith eto fod Wrecsam wedi gwneud y peth cywir yn gweithredu’n gyflym a chyflwyno cyfyngiadau ychwanegol…ynghyd â Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.
“Mae nifer o bobl yn teimlo’n rhwystredig am y mesurau ychwanegol a fydd yn dod i rym heno, ac rydw i’n deall hynny’n iawn. Mae’r byd yn le eithaf anodd ar hyn o bryd…mae pawb wedi blino ac rydym ni eisiau i bethau fynd yn ôl i normal.
“Ond mae’r data a’r wyddoniaeth yn dangos ein bod angen cyfyngiadau ychwanegol os ydym ni am reoli’r feirws unwaith eto yn Wrecsam. Nid oes gennym unrhyw ddewis.
“Felly unwaith eto, rydw i’n annog pob un ohonom i ddilyn y rheolau a chadw atynt.
“Yn fwy na hynny, rwy’n gofyn i bawb wneud y peth cywir, a gwneud popeth y gallant i atal y feirws rhag lledaenu.
“Mae’n golygu gwneud ein gorau i ddiogelu pobl eraill…yn cynnwys y bobl rydym ni’n eu caru.”
Mae manylion llawn y cyfyngiadau yn Wrecsam ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y prif newidiadau a ddaw i rym am 6pm heno yw:
- Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn na gadael y Sir heb esgus rhesymol…megis teithio ar gyfer gwaith neu addysg.
- Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, dim ond y tu allan y bydd modd i chi gwrdd â phobl nad ydych chi’n byw â nhw. Ni fydd modd i chi fod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau yn ‘swigen’).
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG