Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam fod gan aelodau’r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pam fod gan aelodau’r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn …
Pobl a lleY cyngor

Pam fod gan aelodau’r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn …

Diweddarwyd diwethaf: Awst 8, 2017 4:36 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Pam fod gan aelodau'r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn ...
RHANNU

Mae cyfleusterau eglwys leol wedi cael eu huwchraddio am ddim gan gontractwyr y cyngor.

Mae cwmni GM Jones wedi gosod ystafell ymolchi newydd a gwneud gwaith i wella’r gegin yn Eglwys Marchwiail yn ddiweddar.

Gosodwyd ystafell ymolchi newydd a gwnaethpwyd gwaith i wella’r gegin yn Eglwys Marchwiail.

Gwnaethwyd y gwaith fel rhodd gan GM Jones, contractwr sydd wedi bod yn gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yng nghartrefi’r Cyngor yn ardal Marchwiail yn ddiweddar.

Mae’r gwelliannau’n rhan o raglen foderneiddio Cyngor Wrecsam i sicrhau bod pob cartref yn y Fwrdeistref Sirol yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru erbyn 2020.
Mae gofyn i gontractwyr sy’n gwneud gwaith i wella tai’r Cyngor gyfrannu’n ôl at yr economi leol drwy gynlluniau Budd Cymunedol.

Gall hyn gynnwys derbyn Prentisiaid Modern, cyflogi gweithwyr lleol ac adnewyddu cyfleusterau cymunedol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Esbonia Heather Row, Warden Eglwys, sut mae hyn wedi helpu: “Hoffwn ddiolch i GM Jones a Chyngor Wrecsam am wneud y gwaith hwn. Rydym i gyd yn falch iawn o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud.

“Mae’r ardal toiledau newydd wedi cael ei hadnewyddu ac mae’r festri wedi cael lifft wyneb. Mae i gyd yn edrych yn hyfryd a bydd yn fudd mawr i’r defnydd yr Eglwys a’r llu o ddigwyddiadau cymunedol poblogaidd a gynhelir yma, yn enwedig y boreau coffi bob pythefnos rheolaidd sydd gennym ar fore dydd Mawrth, ac y digwyddiadau codi arian.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â ni i siarad ag aelodau neu edrychwch ar ein hysbysfwrdd am fanylion”

Mae GM Jones Cyf wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ers 2013. Ers hynny maent wedi gosod dros 600 o geginau a / neu ystafelloedd ymolchi mewn cartrefi sy’n eiddo i’r cyngor.

Maent hefyd yn gwneud gwaith arall fel tynnu asbestos ac ail-ffrio. Mae ganddynt swyddfa lloeren yn Llay lle maent yn cyflogi nifer o staff a phrentisiaid modern yn lleol

Pam fod gan aelodau'r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn ...
Pam fod gan aelodau'r grŵp eglwysig cymunedol rheswm ychwanegol i wenu yr haf hwn ...



Dywedodd Cynghorydd Lleol Marchwiail, y Cynghorydd John Pritchard: “Rydw i’n hapus dros ben fod y rhaglenni ceginau ac ystafelloedd ymolchi bellach wedi’u cwblhau ym Marchwiail ac mae’n braf gweld fod ein heglwys leol wedi medru elwa o’r buddsoddiad a wnaethpwyd yn y gwaith.

Mae GM Jones wedi gwneud gwaith da iawn yn ailwampio’r ystafell ymolchi a’r gegin ac rwy’n siŵr y bydd pawb sy’n dod yma yn falch iawn.”

Mae’r Cyngor yn buddsoddi swm anhygoel o £56.4m yn y rhaglen moderneiddio tai yn 2017/18.

Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr o £7.5m – a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae’r buddsoddiad wedi arwain at nifer o gynlluniau mantais gymunedol llwyddiannus. Mae contractwyr y cyngor wedi cymryd dros 60 o brentisiaid ac mae dros 70 o staff wedi cael gwaith llawn amser neu ran-amser ac mae dros £63,000 wedi ei roi fel arian parod neu mewn nwyddau i sefydliadau neu brosiectau yng Nghymru.

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni dorri’r record am fuddsoddi mewn gwella ein stoc tai cymdeithasol.

“Rydym yn moderneiddio cartrefi tenantiaid ar draws y fwrdeistref sirol ac mae’n hanfodol bod cymaint o’r buddsoddiad hwn â phosibl yn dod yn ôl i’n heconomi leol a’n cymunedau.

“Rwy’n hynod falch fod cyfleusterau a busnesau lleol yn elwa o’r buddsoddiad hwn, yn arbennig y mudiadau gwirfoddol sy’n aml yn dibynnu ar roddion i gadw eu gwasanaethau i fynd. Mae hefyd yn braf gweld prentisiaid modern a staff lleol yn cael eu cymryd ymlaen gan gontractwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dual Carriageway Gwaith Ffordd i ddechrau 12 Awst
Erthygl nesaf Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy'n digwydd Gwersylloedd digartref ar safleoedd Groves – yr hyn sy’n digwydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English