Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pam rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu
Y cyngor

Pam rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/03 at 9:22 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Ailgylchu Gwastraff
RHANNU
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Yn gynharach yr wythnos hon, gyhoeddwyd ein bod yn cau pob un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref.

Cynnwys
Ian Bancroft – Prif WeithredwrY Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y CyngorPam rydyn ni’n cau’r safleoeddBeth ddylech chi ei wneud tra bydd y safleoedd ar gau

Caeodd safle Plas Madog ddydd Mawrth, a bydd Lôn y Bryn a Brymbo yn cau erbyn 4pm ddydd Gwener yma (Ebrill 3).

Rydyn ni wedi derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â pham rydyn ni’n cau’r safleoedd, a beth ddylech chi ei wneud gydag unrhyw wastraff rydych chi fel arfer yn ei gymryd yno.

Pam rydyn ni’n cau’r safleoedd

Yng ngoleuni canllawiau cyfredol y Llywodraeth ar deithio hanfodol i’r cyhoedd, nid oes gennym unrhyw ddewis ond eu cau

Er bod y canllawiau hyn yn galluogi preswylwyr i deithio i archfarchnadoedd i siopa am fwyd, nid ydynt yn cynnwys galluogi preswylwyr i deithio i safleoedd ailgylchu.

Rydyn ni wedi cadw ein canolfannau ailgylchu ar agor hirach nag unrhyw gyngor arall yng Ngogledd Cymru. Ond yn y sefyllfa bresennol, pe baem gadw’r safleoedd ar agor, byddem yn annog preswylwyr i dorri canllawiau’r Llywodraeth ar deithio hanfodol.

Dyma pam rydyn ni’n cau’r safleoedd.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Rydyn ni’n deall rhwystrau pobl, ac rydyn ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth casglu ymyl y ffordd llawn ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, rydym yn delio â sefyllfa nad oes neb wedi’i phrofi erioed, a bydd rhaid i ni barhau i adolygu’r gwasanaethau a ddarparwn yn ddyddiol – gan geisio cydbwyso anghenion preswylwyr â chanllawiau Llywodraeth y DU, ac iechyd a diogelwch ein cymunedau a staff.

Beth ddylech chi ei wneud tra bydd y safleoedd ar gau

Tra bod y safleoedd ar gau, rydym yn gofyn i chi:

● Lleihau’r gwastraff rydych yn ei greu – peidiwch â gwneud unrhyw ‘clear outs’ gartref, neu gwnewch unrhyw beth arall sy’n creu sbwriel ychwanegol (e.e. rhai prosiectau DIY ac ati). Rydyn ni’n gwybod nad yw’n hawdd, ond trio i gadw eich gwastraff i’r lleiafswm.

● Rhowch unrhyw wastraff gardd yn eich bin gwyrdd fel arfer (byddwn yn barhau i gwagio biniau gwyrdd cyhyd ag y gallwn), a storio unrhyw wastraff gardd ychwanegol – na allwch ei ffitio yn eich bin yn eich gardd am y tro. Er enghraifft, os ydych chi wedi bod yn tocio llwyni, efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r toriadau mewn pentwr am y tro.

● Cadwch unrhyw eitemau eraill y byddech chi fel arfer yn mynd â nhw i’r domen (hen ddodrefn, pren, nwyddau trydanol ac ati) gartref am y tro – oni bai eu bod yn addas i’w rhoi yn eich bin du.

Peidiwch â chael eich temtio i dipio’n anghyfreithlon … peidiwch â gadael gwastraff wrth y giât neu ar ochr y ffordd, nac unrhyw le arall lle na ddylid ei adael.

Mae hwn yn gyfnod anhygoel o heriol i bawb yn y DU, ac mae ein bywydau beunyddiol yn cael eu heffeithio mewn pob math o ffyrdd.

Ond peidiwch â meddwl nad ydym yn poeni sut mae hyn yn effeithio arnoch chi. Rydym yn gwneud hynny, ac rydym yn gweithio’n ddi-baid i gadw gwasanaethau critigol yn mynd yn Wrecsam.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dementia Cymorth i bobl sy’n gofalu am rywun gyda dementia
Erthygl nesaf busnes Cynllun Benthyciad Busnes Cymru ar agor ac yn derbyn ceisiadau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English