Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratoi Eiddo Gwag yn Ystod Pandemig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Paratoi Eiddo Gwag yn Ystod Pandemig
ArallPobl a lleY cyngor

Paratoi Eiddo Gwag yn Ystod Pandemig

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 4, 2020 12:38 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
properties
RHANNU

Nid yw’r angen am dai yn diflannu yn ystod pandemig, os unrhyw beth, mae’r angen yn cynyddu. Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu cartrefi gydol oes o safon rhagorol i’n tenantiaid, ac ni fydd hynny’n peidio yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae Tai yn wasanaeth hanfodol, sy’n golygu bod yn rhaid i ni feddwl ar flaenau’n traed a phenderfynu ar ddulliau newydd ac arloesol o weithio. Mewn cyfnod byr iawn rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i’n tenantiaid a’n cleientiaid ym mhob agwedd ar dai, gan gynnwys cwblhau gwaith adnewyddu mewn eiddo gwag er mwyn eu trosglwyddo yn ôl i’n swyddfeydd stad i’w hail-osod.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Am gyfnod, gwaith argyfwng yn unig oeddem yn gallu ei wneud ar eiddo ac roedd yn rhaid oedi gyda’r gwaith adnewyddu hwn, wrth i ni ymdopi â’r pandemig. Wrth i bethau ddechrau newid, golygai y gallem ddatgloi rhagor o’n gwasanaethau, gan gynnwys dechrau gwaith ar eiddo gwag unwaith eto. Yn dilyn cyfres o asesiadau risg llym, roedd modd i ni gynllunio gwaith a dod a nifer digonol o adnoddau i mewn er mwyn cwblhau gwaith ar eiddo, gan sicrhau fod cadw pellter cymdeithasol yn flaenllaw ym mhopeth roeddem yn ei wneud, gan gadw ein staff a’r cyhoedd yn ddiogel.

 

Cymerodd y cynllun o ddatgloi graddol sawl wythnos i gael ei weithredu cyn i ni ddechrau gweld gwaith ar eiddo gwag yn cael ei gwblhau a’i ddychwelyd i’r swyddfeydd stadau er mwyn eu hail-osod. Rydym wedi gwneud cynnydd da ac wedi llwyddo dychwelyd 291 eiddo i safon sy’n uwch na gofynion cynhwysfawr iawn Safon Ansawdd Tai Cymru ers mis Ebrill 2020. Gan ystyried ein bod ond wedi canolbwyntio ar waith brys am 6 wythnos o’r cyfnod hwn, mae hyn yn dipyn o gamp.

Rydym yn dal ati i weithio’n galed i ddarparu mwy a mwy o eiddo ac mae’n braf iawn gweld fod ein tenantiaid yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud yn fawr, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn…

 “Dydw i’n methu credu’r peth, mae o fel tŷ newydd sbon. Fedrwn ni ddim gofyn am well.”

 “Diolch yn fawr iawn i chi, roedd yn sicr yn werth aros.”

 “Bydd y plant wrth eu boddau, mae ganddyn nhw ardd y gallan nhw chwarae ynddi o’r diwedd.”

Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai “Mae’n wych i weld ein hadran dai yn cadw gwasanaethau fel hyn i fynd yn effeithiol, gan sicrhau fod tai o safon yn dal i fod gennym ar gyfer ein tenantiaid. Mae’r cydweithrediad a’r gwaith caled mae’r Tîm Tai wedi ei arddangos yn ystod y pandemig wedi bod yn benigamp. Maen nhw wedi dal ati i weithio ym mha bynnag rinwedd y gofynnwyd iddynt ac wedi addasu’n gyflym i’r dulliau newydd o weithio. Heb hyn, ni fyddai modd iddyn nhw ddarparu tai o’r safon maen nhw’n ei gynnig.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol climate change Newid Hinsawdd 2020 – ein camau nesaf
Erthygl nesaf Road Popp Gosod marciau pabi o amgylch Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English