Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol dinas Wrecsam, ddydd Mercher 7 Awst rhwng 12:00 a 4:00, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).
Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn. Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr a chwarae â sothach.
Bwriad y digwyddiad hwn yw pwysleisio hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Y cyfan rydym ni’n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a’u baeddu. Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic er mwyn aros drwy’r prynhawn!
“Mae Diwrnod Chwarae yn ddiwrnod i’w gofio”
Diwrnod Chwarae yw’r dyddiad pwysicaf ar gyfer dyddiaduron pawb wrth i ni i gyd ddod ynghyd yng nghanol y ddinas am brynhawn sydd wedi ei neilltuo’n llwyr er mwyn i blant a phobl ifanc gael hwyl.
Unwaith eto rydym yn disgwyl miloedd yn ystod y prynhawn ac mae ein tîm Diwrnod Chwarae yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i’w wneud yn brynhawn i’w gofio.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd