Gobeithio bod gennych ddillad sbâr yn barod, oherwydd mae Diwrnod Chwarae Wrecsam yn ôl ac mae’n addo bod yn llwyddiant ysgubol.
Mwy a Gwell
Daeth dros 3,000 o bobl i’r digwyddiad y llynedd, a’r tro hwn y nod yw bod yn fwy a gwell fyth.
Cynhelir y digwyddiad llawn hwyl yng nghanol tref Wrecsam ddydd Mercher, 1 Awst rhwng 12pm a 4pm. Mae croeso i bobl o bob oed felly dewch â’ch plant, chwiorydd, mamau, brodyr, a neiniau a mynd amdani!
Cadwch eich waledi
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi ddod â gwên, agwedd chwareus, ac ychydig o ddillad nad oes ots os ydynt yn baeddu.
Daw’r digwyddiad fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan plant ar draws y fwrdeistref sirol ddigon o amser, lle a hawl i chwarae, ac mae’n cael ei gynnal ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol.
Dywed y Cynghorydd William Baldwin, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae’r pleser pur y mae’r plant yn ei gael o’r diwrnod hwn yn bleser i’w weld. Cannoedd o blant yn gwneud beth mae plant eisiau ei wneud: gwneud llanast a chael hwyl.
“Mae bob amser yn codi’r ysbryd i’w gweld yn chwarae, heb unrhyw beth yn eu poeni.”
Bydd eich hoff ddigwyddiadau yn dychwelyd, fel y pwll tywod anferth, sleid ddŵr, chwarae â sothach a siglenni rhaff. Roedd y picnics yn boblogaidd y llynedd, ond yn sicr bydd rhywbeth sy’n addas i bawb.
Felly dewch draw a chreu atgofion yn ystod gwyliau’r haf. Cewch ragor o wybodaeth yma, ac mae galeri o luniau digwyddiad y llynedd hefyd
Welwn ni chi yno!
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL