Er gwaethaf y penderfyniadau anodd a wnaed ym mis Chwefror ynglŷn ag 11 parc gwledig y fwrdeistref sirol, mae’r model newydd sy’n mynd ymlaen o fis Ebrill yn cael ei ystyried yn gynaliadwy ac yn hylaw – tra’n parhau i ddarparu profiad o ansawdd i ymwelwyr.
Pan gafodd y cynigion eu cyflwyno i ddechrau roedd llawer yn meddwl mai dyma oedd diwedd ein parciau gwledig – “byddant yn cau”, “bydd yr anifeiliaid yn mynd” neu “dim mwy o ddigwyddiadau”. Mae’r rhain i gyd yn bryderon rhesymol gan nad yw unrhyw un yn hoffi newid – yn arbennig i un o’n gwasanaethau sy’n cael ei garu fwyaf.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Er bod trefniadau rheoli a rhedeg y parciau wedi newid, mae adroddiad diweddar i holl aelodau’r cyngor wedi amlinellu’r model ar gyfer y dyfodol – ac nid yw’n newyddion drwg ac mae’n ateb rhai o’r pryderon a godwyd yn wreiddiol.
“Gwaith gyda ffermwyr lleol”
Bydd yr 11 parc yn sicr yn parhau ar agor i’r cyhoedd, gyda chefnogaeth gan staff Strydwedd byddant yn cael eu cynnal a’u tirlunio, a bydd y chwynnu a’r plannu yn parhau, yn ogystal â thorri’r gwair.
Bydd yr anifeiliaid yn aros yn Nhŷ Mawr, gyda buddsoddiad y dyfodol yn mynd i safle anifeiliaid bach ac anifeiliaid anwes. Byddwn hefyd yn parhau i hybu a gweithio gyda ffermwyr lleol i ddod â defaid a gwartheg i mewn ar gyfer pori i roi’r profiad ffermio i ymwelwyr.
Bydd grwpiau Cyfeillion a Chymdeithasau’n parhau, yn ogystal â’r Ceidwaid Iau, a byddwn yn parhau i weithio gyda chynghorau cymuned i archwilio cyfleoedd wrth symud ymlaen i’r dyfodol.
“Rhaglen ddigwyddiadau gyffrous”
Mae yna hefyd raglen ddigwyddiadau gyffrous wedi’i threfnu, gyda gweithgareddau’r Pasg hwn ym Mharc Acton, Parc Bellevue, Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun, Cloddiau Ponciau a Melin y Nant.
Bydd misoedd yr haf yn cynnwys cerddoriaeth boblogaidd yn y Parc yn Bellevue yn parhau, yn ogystal â dyddiau llawn hwyl a digwyddiadau i bob grŵp oedran. Mae digwyddiadau’n parhau drwy gydol y flwyddyn a gallwch wybod mwy am weithgareddau sydd wedi eu trefnu yma.
Bydd baneri gwyrdd yn parhau i gyhwfan, er y disgwylir y byddwn yn colli’r un ym Melin y Nant gydag un yn y Fynwent Fictoraidd a adnewyddwyd ar Ffordd Rhiwabon.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae newid yn anodd iawn ac wrth i doriadau’r Llywodraeth barhau byddant hyd yn oed yn fwy anodd yn y dyfodol. Rwy’n credu bod ein model wrth symud ymlaen yn gynaliadwy ac yn hylaw a bydd yn parhau i ddarparu profiad o ansawdd i ymwelwyr tra’n cael eu hamgylchynu gan olygfeydd godidog.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.