Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio bob dydd Sadwrn yn ystod mis Rhagfyr.
Y nod yw annog pobl i ymweld â chanol y ddinas cyn ac yn ystod cyfnod yr ŵyl – gan helpu i gefnogi busnesau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Nadolig yn gyfnod hanfodol i’r diwydiant manwerthu a hamdden, ac rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig parcio am ddim ar ddydd Sadwrn yn ystod mis Rhagfyr.
“Mae pawb yn gwybod bod cynghorau yn wynebu heriau ariannol mawr ar hyn o bryd, felly rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu fforddio cynnig y cymhelliad hwn, gan ei bod hi mor bwysig cefnogi busnesau lleol trwy annog pobl i siopa a threulio amser hamdden yn y ddinas.
“Byddwn i’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig a dod i ganol dinas Wrecsam cyn ac yn ystod cyfnod yr ŵyl, a helpu i gefnogi ein heconomi leol.”
Pa feysydd parcio sydd wedi’u cynnwys?
Bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor (ac eithrio Tŷ Pawb) ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Sadwrn, Rhagfyr 6
- Dydd Sadwrn, Rhagfyr 13
- Dydd Sadwrn, Rhagfyr 20
- Dydd Sadwrn, Rhagfyr 27
Mae meysydd parcio’r Cyngor yn cynnwys:
- Canolfan Byd Dŵr
- Llyfrgell Wrecsam
- Cilgant San Siôr
- Ffordd y Cilgant
- San Silyn
- Neuadd y Dref
- Stryd y Farchnad
Sylwch nad yw’r maes parcio yn Tŷ Pawb wedi’i gynnwys yn y cynnig hwn – bydd ffioedd parcio arferol yn Tŷ Pawb.


