Mae ein criwiau sbwriel ac ailgylchu wedi rhoi gwybod am nifer o achosion pan na fu modd iddynt gasglu o strydoedd oherwydd problemau yn ymwneud â cheir sydd wedi’u parcio. Felly ystyriwch sut ydych yn parcio eich car, yn arbennig ar eich diwrnod casglu.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gyda chymaint o breswylwyr yn gweithio o adref ar hyn o bryd mae yna lawer mwy o geir yn cael eu parcio ar y strydoedd pan fyddwn ni allan yn casglu, a dim ond un car sydd wedi’i barcio’n wael sydd ei angen i’n hatal ni rhag casglu o’r stryd gyfan. Edrychwch ar y stryd a gwiriwch fod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel ar eich diwrnod casglu. Rydym yn casglu o 64,000 aelwyd bob wythnos ac mae bob amser yn siomedig os yw rhai yn colli allan ar eu casgliadau oherwydd parcio gwael.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Sut gallwch chi helpu
Mae ein lorïau’n drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod.
Gallwch ein helpu i osgoi methu casgliadau drwy gymryd gofal wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.
Edrychwch ar y lluniau isod a chewch weld rhai o’r problemau y mae ein lorïau bin a’n cerbydau ailgylchu yn eu hwynebu o ganlyniad i geir/faniau sydd wedi parcio ac yn eu rhwystro rhag cael mynediad at eiddo.
Mae technoleg wedi’i osod ym mhob un o’n cerbydau – gan gynnwys teledu cylch caeedig – sy’n caniatáu i’r criwiau gadw cofnod o finiau nad ydynt wedi’u cyflwyno cyn 07:30am, neu unrhyw broblemau yn ymwneud â mynediad, sy’n atal ein criwiau rhag ymgymryd â chasgliadau.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL