Mae hen gapel a oedd yn prysur adfeilio wedi cael adfywiad diolch i gwpwl a wnaeth roi gorau i’w swyddi i wireddu eu breuddwyd o redeg parlwr te.
Ymgymrodd partneriaid busnes Sally Roberts a Carl Pottenger o Drefor, ger Llangollen, y prosiect heriol yn 2016 i drosi hen gapel Bryn Seion ar Ffordd yr Orsaf i ‘Pontcysyllte Chapel Tea Room,’ ger Traphont Ddŵr enwog Thomas Telford. Enillodd y Traphont Ddŵr Statws Treftadaeth Byd yn 2009 sydd wedi bod yn hwb enfawr i’r ardal wrth iddynt weld cynnydd yn niferoedd ymwelwyr ers hynny.
Sylwodd Sally a Carl fod darpariaeth bwytai safonol cyfagos sy’n gwerthu rhai o’r cynnyrch lleol gorau ar gael ar gyfer yr ymwelwyr hynny yn fwlch yn y farchnad.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Cafodd y prosiect heriol hwb enfawr gan grant o £30,000 dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru. Maent nawr yn cyflogi 12 o staff llawn amser, rhan amser ac achlysurol.
Carl oedd yn goruchwylio’r adnewyddiad, gan sicrhau eu bod yn cyflogi crefftwyr lleol i gwblhau’r gwaith. Dechreuodd Sally ddod o hyd i, a gwneud ceisiadau am nawdd, cyn rhoi gorau i’w swydd ym manc y stryd fawr y llynedd i ganolbwyntio ar y prosiect llawn amser.
Mae cam dau’r prosiect yn barod wedi cychwyn gan drawsnewid y gweddill o’r adeilad i fod yn bum ystafell wely modern ac agored – dwy ar y llawr gwaelod gan gynnwys un gyda mynediad anabl a thair ar y llawr uchaf. Y bwriad yw y bydd dwy ystafell wely wedi eu cwblhau ac ar gael erbyn canol mis Gorffennaf.
Dywedodd Sally Roberts: “Roedd prynu’r capel yn sicr yn ragolwg eithaf brawychus, ond roeddwn wedi sylwi arno’n adfeilio o ddydd i ddydd yn y blynyddoedd diwethaf a theimlais y byddai’n barlwr te a llety gwely a brecwast gwych. Felly pan gwrddais â Carl, penderfynodd y ddau ohonom ei wneud yn gyd-fenter gan fachu ar y cyfle i brynu’r adeilad.
“Rydym wedi derbyn gymaint o gefnogaeth gan gynghorwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Busnes yng Nghymru, yn ogystal â’r gymuned. Rydym nawr yn canolbwyntio ar ddenu mwy o ymwelwyr o ardaloedd pellach. Mae’n bwysig ein bod yn cadw cysylltiad agos gyda meysydd eraill yn ardal y draphont ddŵr er mwyn gwella profiad ymwelwyr yn yr ardal oherwydd mae twristiaeth yn rhan mor allweddol o’r cymunedau hyn, yn enwedig gan ein bod mor agos i Langollen.”
Dywedodd Carl Prottenger, a fagwyd ar ochr arall y draphont ddŵr ym Mroncysyllte: “Roedd y capel mewn cyflwr gwael ar ôl i ni ei brynu, ond ni chafodd hynny effaith ar ein penderfyniad. Penderfynom yn fuan iawn ein bod ni eisiau creu ‘waw ffactor’ go iawn wrth gerdded trwy’r drysau, a chredaf i ni gyflawni hynny gyda chymorth rhai o’r crefftwyr lleol gwych sydd wedi gweithio gyda ni. Rydym hyd yn oed wedi gwneud i’r gwaith coed gyd-fynd â’r pulpud gwreiddiol yr ydym wedi ei gadw fel rhan allweddol o’r safle.”
Agorwyd drysau ‘Pontcysyllte Tea Room’ ym mis Chwefror ac fe’i agorwyd yn swyddogol gan yr Arglwydd Elis-Thomas, AC a Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ddydd Llun, 18 Mehefin 2018.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth ar gyfer ‘Prosiectau Nodweddiadol sy’n Sefyll Allan.’
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: Hoffwn longyfarch Sally a Carl ar eu gweledigaeth o botensial yr adeilad hanesyddol hwn a’i droi yn barlwr te arbennig. Yn ogystal â safle croesawu ychwanegol i’r ymwelwyr sy’n cael eu denu gan y Safle Treftadaeth Byd eiconig hwn, maent hefyd yn creu swyddi newydd yn y sector twristiaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru. Gydag awyrgylch Capel Cymreig, y Traphont Ddŵr cyfagos ym Mhontcysyllte a’r cynnyrch Cymreig ar werth – mae gan ‘Pontcysyllte Chapel Tea Room’ naws am le arbennig a stori wych i’w hadrodd. Rwyf yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r fenter hon, ac rwyf yn dymuno’n dda i’r perchnogion wrth iddynt gwblhau’r cam nesaf o’r prosiect, sef y ddarpariaeth llety.”
Dywedodd y Cynghorydd Rondo Roberts, Canghellor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer ward Cefn Gwlad Llangollen: “Mae Sally a Carl wedi ymroi gymaint o’u hamser, ymdrech ac arian i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant, a hefyd wedi rhoi hwb i’r economi lleol gan greu swyddi newydd sbon a defnyddio cyflenwyr lleol trwy gydol y broses. Byddent yn parhau i wneud hyn wrth i’r busnes dyfu gan weithio gyda chynhyrchwyr bwyd yr ardal leol i roi gwir flas ar y profiad Cymreig. Dymunaf bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r holl Luniau/Fideos trwy garedigrwydd Mark Fetherstone
Dilynwch ‘Pontcysyllte Chapel Tearoom’ ar Facebook a Twitter @ponttearoom
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB