Wrexham Tourist Information Centre Tourism

Ai aderyn neu awyren ydi o? Wel na, ond fe allai fod yn llawer mwy na’r hyn rydych chi’n ei feddwl…

Y Gorau yn Wrecsam?

Er enghraifft, gall hawlio i fod yn un o’r siopau anrhegion gorau yn Wrecsam.
Ydych chi erioed wedi bod yn cerdded o amgylch y dref yn chwilio am anrheg pen-blwydd ychydig yn wahanol?

Efallai eich bod wedi dod o hyd i’r lle…

Wrth fynd o amgylch y siop fe welwch; gemwaith wedi’i ddylunio’n arbennig â llechi Cymreig, gobennydd â draig Cymru wedi’u gwneud â llaw, blancedi Tweedmill o ansawdd uchel ac anrhegion gwlân hynod gan gynnwys bagiau ar gyfer gliniaduron.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Cynnyrch bwyd lleol

Wyddech chi fod y ganolfan yn gwerthu amrywiaeth fwydydd lleol megis sawsiau, te, bisgedi, jamiau, siytni a cheulion? Maen nhw’n flasus tu hwnt.

Dewch i gael sbec

Dywedodd Amanda Hill, cynghorydd gwybodaeth i dwristiaid yn y ganolfan: “Galwch draw i Ganolfan Groeso Wrecsam, i gael gweld ein hystod newydd o fwyd ac anrhegion Cymreig.
“Tydi llawer o bobl ddim yn gwybod am amrywiaeth ein cynnyrch, felly beth am alw mewn i weld dros eich hun?”

A’r gweddill!

Beth am y pethau rydych chi eisoes yn gwybod amdanynt, ond wedi anghofio amdanynt, wel dyma nodyn i’ch atgoffa.
Meddai Amdana: “Rydym yn gwerthu amrywiaeth o docynnau ar gyfer digwyddiadau lleol. Rydym yn gwerthu tocynnau rhatach ar gyfer Sw Caer, tocynnau i deithio ar fysiau Arriva a National Express.
“Mae gennym hefyd lawer o wybodaeth am atyniadau a digwyddiadau lleol”.

Felly dyna ni. Gobeithio eich bod chi bellach yn fwy cyfarwydd â Chanolfan Groeso Wrecsam, felly ewch i mewn i gael sgwrs gyda’r staff cyfeillgar i weld beth allant ei wneud i chi.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB