Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 4, 2025 10:40 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf
RHANNU

Erthygl Gwadd – Prifysgol Wrecsam a Buglife Cymru

Mae Buglife ac Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam wedi lansio prosiect cydweithredol arloesol, “Ecoleg a Chelf Ar Waith”, sy’n pontio gwyddoniaeth a chelf i godi ymwybyddiaeth am y pryfyn cerrig Isogenus nubecula sydd mewn perygl difrifol.

Mae’r bartneriaeth, dan arweiniad Sarah Hawkes, Swyddog Cadwraeth Isogenus nubecula Natur am Byth, ac Ali Roscoe, Uwch Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ac Arweinydd Rhaglen BA (Anrh) Celfyddyd Gain ac MA Paentio ym Mhrifysgol Wrecsam, yn ymgysylltu â myfyrwyr BA Celfyddyd Gain ac MA Celf a Dylunio i archwilio cylch bywyd unigryw’r pryfyn prin hwn—nad yw’n byw yn unrhyw le yn y DU heblaw am Afon Dyfrdwy yn Sir Wrecsam.

Mae myfyrwyr yn datblygu gweithiau creadigol sy’n archwilio cwestiynau hynod ddiddorol am fywyd creaduriaid di-asgwrn-cefn, megis y newid o fyw yn y dŵr i fyw ar y ddaear. Penllanw eu prosiectau fydd arddangosfa gyhoeddus yn gynnar yn 2027, a fydd yn dod â chadwraeth infertebratau i gynulleidfaoedd newydd trwy ddehongli artistig.

“Mae’r myfyrwyr yn barod yn cynhyrchu syniadau ysbrydoledig sy’n edrych ar fioamrywiaeth trwy lens wahanol,” meddai Sarah. “Bydd yn braf gweld sut y gall y dull amlddisgyblaethol hwn amlygu pwysigrwydd y creaduriaid hyn sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.”

Mae taith maes i Afon Dyfrdwy wedi’i chynllunio ar gyfer diwedd mis Ebrill neu fis Mai, gan roi cyfle i fyfyrwyr weld y pryfed cerrig hyn yn ystod y cyfnod byr pan fyddant yn ymddangos.

Mae’r bartneriaeth yn un o nifer o weithgareddau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru fel rhan o Natur am Byth; rhaglen gadwraeth flaenllaw Cymru. Bydd y rhaglen, sy’n bartneriaeth rhwng naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithredu dros rywogaethau sydd mewn perygl, yn meithrin cysylltiadau â chymunedau Cymru a’u treftadaeth naturiol tra’n hybu ymrwymiad i ddiogelu bioamrywiaeth Cymru drwy ymgysylltu’n flaengar â’r cyhoedd.

Rhannu
Erthygl flaenorol transforming Ydych chi’n gwybod am y newidiadau i fynediad cerbydau ar y Stryd Fawr ac yng Nghanol y Ddinas?
Erthygl nesaf Batteries Mae batris cudd yn achosi tanau…peidiwch byth â’u rhoi mewn bin i gadw pawb yn ddiogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English