Ymunwch â ni yn Wrecsam ddydd Gwener, Mehefin 13 i weld morwyr o HMS Dragon yn dathlu Rhyddid y Ddinas am y tro cyntaf.
Bydd y morwyr yn gorymdeithio i lawnt Llwyn Isaf (y tu allan i Neuadd y Dref) am 10.40am, cyn gorymdeithio drwy ganol y ddinas.
Hon yw’r llong gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i gael ei chysylltu â Wrecsam, ac fe gafodd y bartneriaeth ei selio mewn seremoni yn Portsmouth ym mis Ebrill 2024.
Mae’r llong yn un o longau distryw blaengar Math 45 y Llynges Frenhinol, ac yn hawdd iawn ei hadnabod gyda’r dreigiau coch ar ei blaen.
Mwy o fanylion i ddilyn yn ddiweddarach yr wythnos nesaf.