Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut i wella darllen eich plentyn mewn un cam rhwydd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sut i wella darllen eich plentyn mewn un cam rhwydd!
Busnes ac addysgY cyngor

Sut i wella darllen eich plentyn mewn un cam rhwydd!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 26, 2017 10:25 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Library News
RHANNU

‘Os ydych am gyrraedd unrhyw le mewn bywyd, rhaid i chi ddarllen llawer o lyfrau’ Roald Dahl

Ni allem fod wedi dweud hyn yn well ein hunain!

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod oedran darllen plant yn tueddu i ostwng dros wyliau’r haf, dyma ffordd syml i gynnal neu wella perfformiad darllen eich plentyn!

Am y 18fed flwyddyn yn olynol, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn dod i’ch llyfrgell leol ac eleni, bydd Asiantwyr Anifeiliaid yn dod hefyd!

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn herio’ch plentyn i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau’r haf ac ymweld â’r llyfrgell o leiaf deirgwaith. Bob tro byddant yn mynd i’r llyfrgell, byddant yn cael gwobrau am y llyfrau maent wedi eu darllen hyd yma gyda medal fel y wobr olaf!

Gall unrhyw blentyn ysgol gynradd gymryd rhan, y cyfan mae angen iddynt ei wneud yw ymuno â’r llyfrgell (dim ond prawf o gyfeiriad sydd ei angen arnynt, a dyna ni!) ac oeddech chi’n gwybod, os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 4 ac yn byw yng Nghymru, eu bod yn aelod yn awtomatig? Gofynnwch yn ysgol eich plentyn neu yn eich llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth am fenter Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell!

Mae hefyd llawer o bethau i’w gwneud ar-lein er mwyn i’ch plentyn gael mwy o’r sialens. Yn summerreadingchallenge.org.uk gall eich plentyn chwarae gemau, rhoi cynnig ar gystadlaethau, defnyddio’r adnodd didoli llyfrau i ddod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen, a sgwrsio am y llyfrau rydych wedi eu darllen.

Felly, pwy sydd wedi peintio’r graffiti ar wal y llyfrgell? Pam mae pethau’n mynd ar goll? Am beth ydyn ni’n sôn? Ymunwch â Sialens Ddarllen yr Haf i gael gwybod…!

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr diwahoddiad
Erthygl nesaf Cael gwybodaeth am ein gweithgareddau chwarae am ddim sydd ar gael dros wyliau’r haf Cael gwybodaeth am ein gweithgareddau chwarae am ddim sydd ar gael dros wyliau’r haf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English