Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen PEIDIWCH Â CHOLLI EICH CASGLIAD BIN Y NADOLIG HWN 2017!
Rhannu
Notification Show More
Latest News
key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > PEIDIWCH Â CHOLLI EICH CASGLIAD BIN Y NADOLIG HWN 2017!
Y cyngor

PEIDIWCH Â CHOLLI EICH CASGLIAD BIN Y NADOLIG HWN 2017!

Diweddarwyd diwethaf: 2018/12/27 at 2:57 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
PEIDIWCH Â CHOLLI EICH CASGLIAD BIN Y NADOLIG HWN 2017!
RHANNU

Bydd rhai newidiadau i’r dyddiadau casglu biniau ac ailgylchu y Nadolig hwn. Caiff trigolion eu hatgoffa i wirio dyddiadau eu casgliad bin dros gyfnod y Nadolig, gyda newidiadau rhwng 23 Rhagfyr a 6 Ionawr.

Yn arbennig, rydym yn gofyn i bobl a fyddai fel arfer yn cael casgliad bin ar ddiwrnod Nadolig i gofio rhoi eu biniau gwastraff ac ailgylchu allan 2 ddiwrnod yn gynt, sef dydd Sadwrn 23 Rhagfyr. Ar ôl 26 Rhagfyr, bydd yr holl gasgliadau bin ddiwrnod yn hwyrach (gan gynnwys casgliadau sydd Sadwrn). Bydd casgliadau arferol yn parhau ar ôl 6 Ionawr.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

I lawrlwytho neu argraffu eich calendr ewch i fan hyn a theipiwch eich cod post. Unwaith mae eich cod post wedi ei deipio, cliciwch ar eich eiddo a bydd y system yn dangos eich diwrnod casglu perthnasol a’r calendr – bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi un ai argraffu’r calendr neu ei arbed. Mae gennym hefyd nifer gyfyngedig o galendrau ar gael i’w casglu o’r Ganolfan Gyswllt ar Stryt yr Arglwydd.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym am sicrhau bod trigolion yn ymwybodol o’r newidiadau i’w diwrnodau casglu biniau yn ystod cyfnod y Nadolig. Yn arbennig ar gyfer y trigolion y caiff eu biniau eu casglu ar ddiwrnod Nadolig, oherwydd y flwyddyn hon cânt eu casglu 2 ddiwrnod yn gynt, ar ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr. Er mwyn sicrhau bod yr holl drigolion yn ymwybodol o sut y bydd y newidiadau’n effeithio arnyn nhw, gofynnwn iddynt wirio eu calendrau casglu bin ar-lein neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth atgoffa drwy e-bost.”

Bydd eich biniau’n dal i gael eu casglu dros gyfnod y Nadolig, ond mae’n bosibl y bydd diwrnod eich casgliad yn newid, felly mae’n bwysig gwirio calendrau gwastraff biniau ac ailgylchu 2017/18 sydd ar gael ar-lein i drigolion eu lawrlwytho.

I wneud pethau’n haws ac i sicrhau na fyddwch byth yn colli casgliad eto, pam na gofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth Fy Niweddariadau. Drwy gofrestru ar gyfer y neges i atgoffa am y casgliad sbwriel ar Fy Niweddariadau, byddwch yn cael e-bost y diwrnod cyn eich casgliad. Ewch i www.wrecsam.gov.uk/cofrestru a llenwch eich manylion.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymwys i ofalu Cymwys i ofalu
Erthygl nesaf O droi’r goleuadau Nadolig ymlaen i reidiau gwifren wib anturus... mae’r arth hwn wedi gwneud y cyfan! O droi’r goleuadau Nadolig ymlaen i reidiau gwifren wib anturus… mae’r arth hwn wedi gwneud y cyfan!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

key in door - wrexham council housing
Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam
Y cyngor Rhagfyr 7, 2023
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

key in door - wrexham council housing
Y cyngor

Llwyddiant i Gynllun Prydlesu Cymru yn Wrecsam

Rhagfyr 7, 2023
Hands
Y cyngorFideoPobl a lle

Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia

Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English