Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi’i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi’i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi’i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 2, 2026 1:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi'i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
RHANNU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod casgliad newydd trawiadol o westai pryfed ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, a ariennir drwy gyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, i helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad sydyn mewn poblogaethau pryfed ledled y DU.

Mae nifer y pryfed wedi gostwng yn sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf, gydag astudiaethau’n dangos bod hyd at 60% o rywogaethau wedi’u colli. Colli cynefin yw un o’r prif ffactorau sydd wedi ysgogi’r dirywiad hwn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio cynyddu cynefin addas i helpu ein pryfed i ffynnu.

Er bod llawer o bobl yn awyddus i gael gerddi a thirweddau taclus, nid yw hynny’n gynefin addas iawn i bryfed mewn gwirionedd. Maen nhw’n ffynnu mewn “mannau blêr” sy’n eu helpu i gael rhywle i’w alw’n gartref. Mae gwestai pryfed yn cynnig ateb effeithiol a thrawiadol o ran eu golwg, ac yn ffordd wych o helpu pryfed, gan gynnig cartref parod fel bod modd iddyn nhw orffwys, gaeafgysgu a bridio, ac maen nhw’n edrych yn berffaith!

Mae’r gwestai pryfed newydd ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr yn rhan o’r llythrennau mawr, trawiadol “Wrecsam”, sydd wedi’u gosod yn erbyn cefndir y draphont eiconig. Yn ogystal â chyflwyno cynefin hanfodol, mae’r gosodwaith wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o ddirywiad pryfed ac annog ymwelwyr i feddwl yn wahanol am fannau sy’n dda i fywyd gwyllt.

Anogir ymwelwyr i alw heibio, mwynhau’r lleoliad, a phrofi’r olygfa unigryw yn enwedig ar ddiwrnod heulog, wrth ddysgu mwy am sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i fyd natur.

Mae Tîm Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gyflawni cyfres o brosiectau bioamrywiaeth ar draws parciau’r sir, gan helpu i’w gwneud yn fwy gwydn, addas i fywyd gwyllt a chroesawgar i bobl a byd natur ar yr un pryd.

Pam mae pryfed yn bwysig

Mae pryfed yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd ecosystemau a goroesiad dynol. Maen nhw’n brif beillwyr ar gyfer mwy na 87% o rywogaethau planhigion, yn ailgylchu maetholion yn ôl i’r pridd fel dadelfenwyr, ac yn ffurfio sylfaen gweoedd bwyd sy’n cefnogi adar a mamaliaid. Mae pryfed hefyd yn rheoli plâu yn naturiol ac yn dod â gwerth economaidd sylweddol trwy gynhyrchion fel mêl, sidan a lliwiau naturiol.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd, y Cynghorydd David A Bithell: “Mae’r gwesty pryfed trawiadol bellach wedi’i osod ac mae’n lle gwych i dynnu llun wrth ymweld â Pharc Gwledig Tŷ Mawr. “Rhan nesaf y prosiect fydd ychwanegu llwyni a phlanhigion amrywiol o amgylch y gosodwaith yn ogystal â llenwi’r bylchau yn y llythrennau gyda deunyddiau naturiol i sicrhau ei fod yn gynefin diogel a chyfforddus i’n bywyd gwyllt lleol.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn Wrecsam, cysylltwch â: LocalPlacesForNature@wrexham.gov.uk

Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi'i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi'i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi'i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
TAGGED:Pryfed
Rhannu
Erthygl flaenorol Helpwch i wneud Wrecsam yn fwy diogel - Lleisiau’n Creu Newid Helpwch i wneud Wrecsam yn fwy diogel – Lleisiau’n Creu Newid
Erthygl nesaf Mae arwyddion maes parcio newydd yn cael eu gosod fel rhan o brosiect a ariennir gan grant CFfG Mae arwyddion maes parcio newydd yn cael eu gosod fel rhan o brosiect a ariennir gan grant CFfG

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English