Ym mis Awst neu ar ddechrau mis Medi, byddwch yn cael llythyr neu ffurflen gennym ni yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion ar y gofrestr etholiadol, fel y byddwch yn barod i fwrw eich pleidlais pan fydd hi’n amser yr etholiad.
Rydym yn annog holl breswylwyr i wirio’r manylion etholiadol neu byddant yn colli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sydd yn eu heffeithio nhw.
Gelwir gwirio manylion fel hyn yn ganfas blynyddol. Mae hyn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ei wneud bob blwyddyn yn ôl y gyfraith, ac mae’n golygu bod rhaid i ni gysylltu â phob aelwyd yn Wrecsam i wirio bod manylion sydd gennym i bob eiddo yn gywir.
Os yw popeth yn gywir, mae’n golygu bod pawb sydd yn gymwys i bleidleisio yn cael pleidleisio, ac yn awr gan fod fwy o bobl nag erioed yn gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru, mae’n bwysig i wneud yn siŵr bod y gofrestr yn ddiweddar.
Yng Nghymru, mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd a llywodraeth leol, sydd yn golygu bod rhaid i blant 14 a 15 oed gofrestru hefyd. Os oes gennych unrhyw un yn eich eiddo sydd yn 14 oed neu’n hŷn, gallent gael eu cynnwys yn awr ar y gofrestr etholiadol, a phan fyddant yn 16 oed byddant yn barod i allu pleidleisio yn yr etholiadau hyn.
Mae pob gwladolion tramor, sydd yn byw yng Nghymru’n gyfreithlon yn gallu pleidleisio hefyd. Yn flaenorol, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu UE oedd yn cael pleidleisio. Mae hyn yn golygu os ydych yn dod o wlad arall ar wahân i’r rhain, gallwch bleidleisio yn yr etholiadau bellach.
Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Wrecsam: “Cadwch lygaid allan am ddiweddariadau gan Gyngor Wrecsam!” Y canfas blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod yw wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Gwneud yn siŵr nad ydych yn colli eich llais yn yr etholiad nesaf, cadwch olwg allan am gyfarwyddiadau gennym ni.
“Os na fyddwch wedi clywed gan y cyngor, efallai nad ydych ar y gofrestr. Os ydych eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote”
Mae gennych tan 30 Tachwedd i roi gwybod i ni os oes unrhyw beth wedi newid ar eich ffurflen.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR