Wyddoch chi y gellid defnyddio eich gwastraff cartref i gynhyrchu ynni, neu i ddod yn eitemau cwbl newydd?
Mae Wrecsam yn gwneud yn dda iawn pan ddaw at ailgylchu – rydym eisoes yn agos iawn at beidio ag anfon dim gwastraff i’w dirlenwi, ac roedd ffigur ailgylchu blynyddol y llynedd dros 68 y cant.
Caiff gwastraff na gaiff ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu ei gompostio ei anfon i ffwrdd i gynhyrchu ynni ar gyfer Gorsafoedd Ynni, felly mewn gwirionedd caiff ein holl wastraff ei ddargyfeirio at ddefnydd da.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae rhai deunyddiau yn haws i’w hailgylchu nag eraill ac angen llai o brosesu ac ynni i’w torri i lawr i bwynt y gellir eu defnyddio eto.
Mae ein capasiti a’r dechnoleg rydym yn ei defnyddio wedi gwella dros y blynyddoedd – sy’n golygu y gall rhai pethau na chawsant eu hailgylchu’n boblogaidd, megis rhai mathau o becynnau plastig, gael eu hailgylchu yn awr.
Rydym am sicrhau bod pobl yn gwybod y diweddaraf am yr hyn y gellir ei ailgylchu a’r hyn na ellir ei ailgylchu.
Mae pethau y gallwn eu rhoi yn y casgliadau ailgylchu wythnosol yn cynnwys:
- Plastig cymysg
- Aerosolau
- Tuniau a chaniau
- Ffoil
- Poteli gwydr a jariau
- Papur a cherdyn
- Gwastraff bwyd
- Tecstilau
A bob pythefnos:
- Gwastraff gardd (o’r bin olwynion gwyrdd)
P’un a gaiff deunyddiau y gellir eu hailgylchu eu rhoi mewn troli bocs neu yn y cynwysyddion traddodiadol, caiff yr un eitemau eu casglu y naill ffordd neu’r llall – cyn belled ag y caiff pethau eu storio’n gywir, ni ddylech brofi unrhyw broblemau.
Mae eitemau eraill y gall trigolion Wrecsam eu hailgylchu drwy fynd â nhw i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cynnwys:
- Coed a phren
- Batris car
- Eitemau trydanol a thiwbiau fflworoleuol
- Craidd caled, pridd a rwbel
- Gwastraff gardd
- Metel sgrap
- Offer mawr
- Hen olew injan
- Paent
- Tetra Pak
- Dodrefn
- Teiars
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cymorth trigolion wedi bod yn hynod o werthfawr wrth i ni geisio cynyddu faint o ddeunydd gwastraff yr ydym yn ei ailgylchu, gan gyrraedd record o 68 y cant y llynedd.
“Gan gofio hynny, roeddem ni am atgoffa pobl bod modd iddyn nhw, mae’n debyg, ailgylchu mwy o eitemau nag y maen nhw’n ei feddwl.
“A hyd yn oed os na allwn ei gymryd yn ystod casgliadau ailgylchu gwastraff cartref bob pythefnos, gallwn ei dderbyn os caiff ei ollwng yn un o’n tri chanolfan gwastraff ac ailgylchu, neu’r siop ailddefnyddio yn yr Ystâd Ddiwydiannol”.
Edrychwch ar ein gwefan i gael mwy o fanylion.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU