Iawn, efallai fod ‘peidiwch â gwastraffu gwastraff bwyd’ yn swnio braidd yn od i gychwyn, ond mae’n gwneud synnwyr pan feddyliwch chi amdano, yn enwedig rŵan ein bod ni’n cyrraedd y gwanwyn, a gobeithio addewid o dywydd gwell ar droed.
Mae llawer ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd bellach, sy’n wych. Ond yn anffodus, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n preswylwyr yn ailgylchu bwyd O GWBL ac maen nhw’n rhoi bwyd dros ben yn eu gwastraff cyffredinol. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn, ceisiwch dorri’r cylch – mae’n well o lawer i ni, ond mae’n well o lawer i chi hefyd.
Get the latest COVID-19 vaccination roll out across Wrexham and North Wales
Tywydd cynnes = biniau drewllyd
Ydi, mae hyn yn wir. Bydd biniau bob amser yn drewi i ryw raddau, ond bydd biniau sydd â darnau o fwyd wedi’u gadael ynddyn nhw am bythefnos yn ystod y misoedd cynhesaf yn drewi’n waeth o LAWER. Cofiwch, byddwn ni’n casglu eich deunydd ailgylchu bob wythnos, felly os byddwch chi’n ailgylchu gwastraff bwyd, dim ond am wythnos ar y mwyaf y bydd yn aros yn eich cadi…os na fyddwch chi’n ailgylchu eich bwyd dros ben, bydd y saith diwrnod ychwanegol hynny yn eich gwastraff cyffredinol yn gwneud gwahaniaeth drewllyd iawn.
Gan gadw hyn mewn cof, gofynnwch i’ch hun eto ‘pam nad ydw i’n ailgylchu fy mwyd dros ben?’ Oes gennych chi ateb? Ai un o’r rhain yw’r ateb?
• I arbed amser efallai? Anghywir. Mae rhoi bwyd dros ben mewn cadi bwyd yn cymryd yr un faint o amser â’u rhoi nhw yn unrhyw le arall.
• Mae bagiau i’r cadi yn ddrud. Nac ydyn, rydym wedi bod yn darparu bagiau rhad ac am ddim i’r cadis ers tro bellach. Pan fydd capasiti yn ein rowndiau, bydd ein criwiau’n darparu bagiau bwyd (ar gylch parhaus). Efallai bydd rhai ohonoch wedi cael rholyn pan gawsoch gasgliad gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu yn unig yn ddiweddar. Neu, gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu cadi ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn rhoi rholyn newydd i chi yn rhad ac am ddim.
• Mae fy nghadi bwyd wedi torri. Dim problem, gallwch wneud cais am un newydd am ddim ar ein gwefan.
Felly does ddim rheswm pam na ddylech chi ailgylchu gwastraff bwyd.
Beth ellir ei ailgylchu?
Gobeithio eich bod yn awyddus i ailgylchu bwyd bellach, felly byddwch chi am wybod beth ellir ei ailgylchu yn eich cadi. Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu. Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddwch chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:
• Bwyd sydd dros y dyddiad
• Esgyrn a charcasau
• Plisgyn wyau
• Croen banana (a philion eraill)
• Calonnau afalau
• Coffi mân
• Bwydydd amrwd
• Bwydydd sydd wedi llwydo
• Crafion platiau
• Prydau parod heb eu bwyta
• Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
• Pysgod cregyn
Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i www.wrecsam.gov.uk/ailgylchu
GET THE FACTS