Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cau am 4pm fory ac felly gofynnwn i chi ddal gafael ar unrhyw wastraff sydd gennych chi hyd nes bydd y canolfannau yn ailagor ar 9 Tachwedd.
Rydym ni’n dal yn derbyn gwybodaeth am dipio anghyfreithlon, ac nid gwastraff y cartref yn unig sy’n cael ei adael ond gwastraff adeiladu hefyd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rydw i’n talu i rywun casglu fy sbwriel
Os ydych chi’n talu i rywun gasglu symiau mawr o wastraff yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Dydi cwmnïau o’r fath ddim yn gallu gwaredu’r eitemau yma yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, mae’n rhaid iddyn nhw fynd â’r eitemau i gyfleuster trwyddedig preifat.
Gofynnwch am dystiolaeth eu bod nhw’n gallu gwneud hyn. Felly, os ydych chi’n talu rhywun i waredu eich sbwriel, gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n fasnachwyr gonest. Fe ddylen nhw fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff – peidiwch â’u defnyddio os nad oes ganddyn nhw un, yn fwy na thebyg byddan nhw’n tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad os cân nhw eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi.
Os ydych chi’n talu i rywun gasglu symiau mawr o wastraff yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Dydi cwmnïau o’r fath ddim yn gallu gwaredu’r eitemau yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, mae’n rhaid iddyn nhw fynd â’r eitemau i gyfleuster trwyddedig preifat.
Gofynnwch am dystiolaeth eu bod nhw’n gallu gwneud hyn. Felly, os ydych chi’n talu rhywun i waredu eich sbwriel, gwnewch yn siŵr eu bod yn fasnachwyr gonest. Fe ddylen nhw fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff – peidiwch â’u defnyddio os nad oes ganddyn nhw un, yn fwy na thebyg byddan nhw’n tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad os cân nhw eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tipio anghyfreithlon a gwaredu sbwriel yn anghyfrifol yn anesgusadwy. Y cwbl rydym ni’n gofyn i bobl ei wneud ydi cadw eu gwastraff nes bod ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ailagor eto.
“Mae yna enghreifftiau ysgytiol o dipio anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n costio arian i’w glirio. Rydym ni bob amser yn gwirio os oes unrhyw beth yn y sbwriel i’n helpu ni ganfod y perchennog ac, os oes, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn a dirwyo’r rheiny sy’n gyfrifol am ddifetha ein cymunedau, diogi pur ydi hyn.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG