Cynhaliwyd Twrnameintiau Pêl-droed Ysgolion Cynradd gan Dîm Pobl Ifanc Egnïol, Wrecsam Egnïol, ar dir The Rock, cartref Derwyddon Cefn, cyn gêm Bechgyn Ysgol Dan 18 oed Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Cymerodd wyth ysgol ran mewn twrnamaint Blwyddyn 5 a 6, a chymerodd pum ysgol ran mewn twrnamaint Blwyddyn 3 a 4, gydag ysgolion cynradd gan gynnwys Cefn Mawr, Rhosymedre, Penycae, Maes y Mynydd, Santes Fair Owrtyn, Maes y Llan, Deiniol a Madras, gyda mwy na 100 o ddisgyblion yn cymryd rhan.
Roedd dau dîm o bob twrnamaint yn gymwys i gymryd rhan yn y rowndiau terfynol, a gynhaliwyd ar noson y gêm Bechgyn Ysgol Cymru.
Yn y twrnamaint Blwyddyn 3 a 4, curodd tîm Cefn Mawr dîm Maes y Llan ac yn nhwrnamaint Blwyddyn 5 a 6, tîm Penycae oedd yr enillwyr yn erbyn Maes y Mynydd.
Yna, estynnwyd gwahoddiad i ddisgyblion aros i wylio’r gêm bechgyn ysgol dan 18 oed, a enillwyd 2-1 gan Weriniaeth Iwerddon. Cynhaliwyd cyflwyniad ar y cae yn ystod yr egwyl hanner amser, a cafodd y timau buddugol eu tlysau.
Dywedodd John Mann, Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru: “Roedd yn wych gweld cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol ac yn mwynhau eu hunain ar noson y gêm. Rydym yn sicr yn bwriadu gwneud rhagor o waith gydag ysgolion yn ardal Wrecsam yn y dyfodol.
“Rydym yn ddiolchgar i Derwyddon Cefn am gynnal y gêm. Roedd cynulleidfa wych ac roedd gwir synnwyr o gymuned yno gyda chymaint o blant a rhieni yn bresennol.”
Dywedodd Tudor Jones o Derwyddon Cefn a Swyddog Cyswllt Bechgyn Ysgol Cymru ar gyfer y gem: “Mae gennym berthynas waith dda gyda staff Wrecsam Egnïol ac roeddem yn falch o weld cymaint o ddisgyblion ysgol yn defnyddio’r cyfleuster yn y twrnameintiau cyn y gêm, a hefyd yn y rowndiau terfynol gyda’r nos. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, ac roedd presenoldeb gwych ar noson y gêm.
Hoffwn longyfarch yr enillwyr, Cefn Mawr a Penycae, yn ogystal â’r holl ysgolion eraill o’r ardal leol a gymerodd ran. Rydym yn gobeithio eu gweld i gyd eto mewn twrnameintiau a gemau yn y dyfodol agos.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT